S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cyri Dail Betys

Cynhwysion

Dail betys

Olew

Llwy de o hadau cumin

Llwy de o turmeric

Hanner llwy de o bowdwr chili coch

Llwy de a hanner o bowdwr coriander

2 Chili gwyrdd

Sinsir

Cwpan a hanner o datws

Pinsiad o halen

Sudd lemon

Llwy de o garam masala

Dull

  1. Rhowch olew mewn padell cyn ychwanegu'r hadau cumin nes yn frown.
  2. Yna, ychwanegwch y chilis gwyrdd - gadewch yr hadau i mewn os am gyri wy sbeislyd!
  3. Ychwanegwch sinsir gyda'r chili cyn rhoi'r dail betys yn y badell.
  4. Yna, rhowch y tatws wedi'i plicio a'i torri yn y badell.
  5. Rwan am y sbeisys - turmeric, powdwr chili, coriander a phinsiad o halen.
  6. Gorchuddiwch a'i adael i goginio am 20 munud gan droi bob hyn a hyn.
  7. Wedi i'r tatws feddalu, ychwanegwch sudd lemon a llwy de o garam masala.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?