S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Gardd Ken ac Alison

  • Bysedd y Cwn : Mae Bysedd y Cwn yn gallu bod yn blanhigion eilflwydd neu'n rhai lluosflwydd sy'n byw yn fyr. Mae'n ffurfio rhosenni o ddail syml gyda blodau hir siâp clychau.
  • Lafant : Lafant Ffrengig gyda blodau crwn a phetalau ysgafn sydd fel adenydd pili-pala. Edrych yn wych mewn border heulog. Denu gwenyn a phryfetach eraill sy'n caru neithdar.
  • Campanula : Mae Campanula yn blanhigyn lluosflwydd gyda dail bytholwyrdd a blodau piws-glas siap cwpan sy'n ymddangos dechrau/canol haf.
  • Aquilegia : Mae'r aquilegia yn blanhigyn lluosflwydd gyda choesau hir a blodau siâp clychau. Math 'alpine' ydi'r un sydd wedi cael ei blannu yng ngardd Ken ac Alison.
  • Teim : Plannwch allan mewn ardal gynnes a heulog yn yr ardd mewn pridd sy'n draenio'n dda. Os ydi'ch pridd yn rhy drwg neu os oes gennych chi ardd fechan, tyfwch mewn potiau.
  • Ywen
  • Salvia
  • Scabiosa
  • Privet (standard)
  • Photinia Fraseri Red Robin
  • Senetti
  • Phormium Jester (New Zealand Flax) : Mae'r Phormium yn blanhigyn gyda dail fel strapiau sy'n tyfu hyd at 90cm o uchder. Plannwch mewn ardal heulog neu rhannol gysgodol. Maen nhw'n arbennig mewn potiau ar y patio.
  • Teim Lemon Thymus Citriodorus : Mae dail y teim yma yn rhyddhau arogl lemwn wrth eu rhwbio wrth gynhyrchu blodau piws yn ystod yr haf. Maen nhw'n blanhigion da ar gyfer potiau neu fordor heulog. Torrwch yn ôl yn y gwanwyn i gadw siâp taclus. Codwch a rhannwch unrhyw glystyrau mawr yn fuan yn y gwanwyn.
  • Lupin Lupinus 'Noble Maiden' : Mae'r Lupinus yn gallu bod yn llwyni blynyddol neu luosflwydd. Mae'r 'Noble Maiden' yn fath sy'n ffurfio clystyrau a'n tyfu i 90cm o uchder a'n cynhyrchu blodau gwyn yn yr haf.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?