S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Jeli Fuchsia

Cynhwysion yr hylif

  • 6 Cwpan o ddŵr berwedig
  • 4 Cwpan o siwgr gwyn
  • 125ml Pectin afal

Ar gyfer y blodau

  • 2 Gwpan o flodau fuchsia
  • 2 Gwpan o siwgr gwyn
  • 1/2 Cwpan o sudd lemon

Dull

  1. Y peth cyntaf i'w wneud ydi rhyddhau lliw a blas y blodau trwy eu cymysgu efo siwgr a sudd lemon.
  2. Ychwanegwch siwgr a pectin afal at ddŵr berwedig cyn ychwanegu'r gymysgedd blodau.
  3. Berwch y gymysgedd am tua 30 munud.
  4. Mae'r jeli yn barod i'w fotelu pan fydd croen yn ffurfio ac yn aros ar wahan ar blat oer wrth i chi dynnu'ch bys trwyddo.
  5. Ar ôl ei fotelu, gadewch i setio dros nos.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?