S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Gardd Rhiannon a Huw

Sioned aeth ati i drawsnewid gardd fechan yn Grangetown a chreu ardal chwarae liwgar ar gyfer y plant.

Y joban gyntaf i Sioned oedd clirio'r ardal a gosod tywod yno cyn mynd ati i roi slabs fel hopscotch ar y llawr.

I beintio'r slabs, fe ddefnyddiodd Sioned baent pwrpasol i'w ddefnyddio tu allan. Mae rhywbeth fel y paent yma, neu'r un yma yn gweithio'n dda iawn. Fe allwch hefyd ddefnyddio'r paent ar wal frics, fel mae Sioned wedi ei wneud yng ngardd Rhiannon a Huw i ychwanegu mwy o liw.

Rhowch haen o hylif ar y slabs hopscotch i'w gwarchod. Mi wneith rhywbeth fel hyn y tro.

Fe lenwodd Sioned o amgylch y slabs gyda gwastraff llechi bras i orchuddio'r tywod.

Mae planhigion a photiau hefyd yn ffordd dda o ddod a lliw i'ch gardd chi. Defnyddiwch duniau bach lliwgar hen ffasiwn i'w llenwi.

Fe aeth Sioned ati i greu cegin fach i'r merched trwy ddefnyddio hen baled pren. Mae digonedd o syniadau ar sut i greu un o'r rhain ar ein cyfrif Pinterest. (Gwyliwch allan am fideo o'r gegin fach yn cael ei chreu ar ein tudalen Facebook wythnos yma)

Mae'r cadeiriau bach lliwgar yma ar gyfer Melangell a Morfudd yn hyfryd ac yn ychwanegu mwy o liw i'r cornel tywyll 'na oedd yn yr ardd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?