S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Gardd Pont Y Tŵr

Salvia nemorosa 'Sensation White'

Salvia nemorosa 'Sensation White'

Mae gan y salvia flodau pur gwyn sy'n para yn hir iawn os wnewch chi dynnu'r pennau marw yn aml. Gwych i roi lliw mewn borderi a photiau ar gyfer ardaloedd sych, heulog.

Mae'n tyfu i uchder o tua 30cm ac yn hoff o bridd ysgafn sy'n draenio'n dda.

Tacluswch y planhigyn wrth ei dorri'n ôl i lefel y tir yn yr hydref neu wanwyn.

Planhigyn gwych ar gyfer denu bywyd gwyllt gan fod gwenyn a pili palas yn hoff o hwn.

Sensation rose

Salvia nemorosa 'Sensation Rose'

Trwy gydol yr haf, mae gan y planhigyn yma flodau bach pinc. Maen nhw'n gwneud planhigion gwych ar gyfer borderi a photiau i'w rhoi tu allan i ffenestri.

I wneud y blodau bara'n hirach, tynnwch unrhyw bennau marw i ffwrdd. Rhowch wrtaith ar waelod y planhigyn yn y gwanwyn.

Clematis 'Juuli'

Clematis 'Juuli'

Mae'r 'Juuli' yn blanhigyn lluosflwydd sy'n dringo. Mae ganddo ddail gwyrdd tywyll ac o ganol haf i'r hydref mae blodau lliw lafant/glas yn ymddangos.

Clematis Niobe

Clematis 'Niobe'

Mae'r clematis yma yn berffaith ar gyfer tyfu mewn potiau mewn ardal rhannol gysgodol. Wrth agor, mae ei flodau coch yn ymddangos yn ddu gyda chanol melyn.

Tynnwch unrhyw goesau marw i ffwrdd cyn i'r tyfiant gychwyn yn y gwanwyn. Rhowch wrtaith 'slow-release' o amgylch waelod y planhigyn ar ddechrau'r gwanwyn.

Penstemon

Penstemon 'Hidcote Pink'

Mae'r planhigyn yma yn tyfu blodau siâp tiwb, yn debyg i Fysedd y Cwn rhwng mis Gorffennaf – Hydref. Mae'r planhigyn lluosflwydd yma wedi cael ei enwi ar ôl gardd Arts and Crafts Laurence Johnston.

Mae'n blanhigyn hawdd i'w dyfu ac yn berffaith ar gyfer ychwanegu lliw i forder heulog.

Os wnewch chi dynnu'r pennau marw yn aml, mi wneith flodeuo nes y Gaeaf.

Delphinium

Delphinium grandiflorum 'Summer Nights'

Yn wahanol i'r delphiniums traddodiadol, mae hwn yn lwyn isel. Mae ganddo flodau bach glas sy'n ymddangos trwy'r haf.

Perffaith ar gyfer potiau, gardd greigiog neu ar ymyl border heulog.

Tynnwch y pennau marw yn aml i annog fwy o flodau.

Dianthus

Dianthus

Enw arall ar y Dianthus ydi "Pinks". Maen nhw'n perthyn i deulu o blanhigion sy'n cynnwys y carnations a'n cael eu categoreiddio yn ôl eu persawr sbeislyd.

Rhan amlaf, mae'r rhain yn cael ei rhoi mewn potiau a borderi.

Isotoma Axillaris

Isotoma axillaris 'Blue Star'

Planhigyn gwych sy'n cynhyrchu blodau piws siâp seren. Mae'n wych mewn potiau tal, hir neu gall lenwi ardaloedd gwag mewn borderi yn yr haf.

Pinsiwch y tyfiant ifanc i'w wneud yn fwy llawn,a rhowch fwyd hylif iddo dros yr haf.

Tynnwch y pennau marw i hybu fwy o flodau.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?