S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tips Tynnu Lluniau gan Sioned

  • Cael y teulu i gerdded o gwmpas ar gyfer lluniau naturiol. Os oes 'na blant bach, dewch lawr i'w lefel nhw i dynnu'r lluniau.
  • Gwnewch y profiad yn un hwylus fel bod pobl yn anghofio eu bod nhw'n cael tynnu llun!
  • Edrychwch ar y cefndir i wneud yn siŵr nad oes bolyn telegraff neu goeden yn edrych fel ei fod o'n dod allan o ben rhywun!
  • Meddyliwch lle mae'r haul. Ydych chi'n gwneud i bobl edrych mewn i'r haul? Ydyn nhw'n cael trafferth cadw eu llygaid ar agor am yn hir?
  • Defnyddiwch ffrâm drws cwt neu sied – Mae'n helpu pobl i ymlacio a'n gneud iddyn nhw osod eu hunain mewn ffordd fwy naturiol. Mae o hefyd yn helpu i osod y llun.
  • Tric syml ydi i feddwl am drionglau, ac i beidio cael pobl neu wynebau mewn rhes. Amrywich uchder y wynebau i greu fwy o ddiddordeb. Mae'r llygaid yn hoffi onglau!
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?