S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Masnachol

Mynd â Chymru i'r byd

  • Ysgogi creadigrwydd

    Ysgogi creadigrwydd

  • Annog cydweithio

    Annog cydweithio

  • Gyrru llwyddiant masnachol

    Gyrru llwyddiant masnachol

Mae'n gyfnod cyffrous i fod yn gweithio yn y sector creadigol yng Nghymru. Mae straeon lleol gwych, wedi'u hadrodd yn dda, yn mynd y tu hwnt i dir ac iaith er mwyn i gynulleidfaoedd byd-eang eu mwynhau.

O lwyddiant Y Ferch Dawel yn y Wyddeleg i Dal Y Mellt gan S4C ar Netflix, mae'r tir wedi ei fraenaru ar gyfer cynnwys gwreiddiol nad yw yn Saesneg.

Crëwyd y Gronfa Cynnwys Masnachol gan S4C Rhyngwladol i lwyr wireddu cyfleoedd masnachol newydd i gynnwys a chynhyrchwyr gwych S4C – yn rhyngwladol ac ar lwyfannau gwahanol.

Pa bynnag faes creadigol rydych chi'n rhan ohono, hoffem glywed gennych chi i weld a allwn ni helpu i ddod o hyd i farchnad i'ch syniad.

  • Pa syniadau, cymeriadau a chynnwys ydych chi'n angerddol dros eu creu yn Gymraeg?

    Pa syniadau, cymeriadau a chynnwys ydych chi'n angerddol dros eu creu yn Gymraeg?

  • A oes gennych chi ddeunydd neu gynnwys da a allai apelio at bobol yn fyd-eang?

    A oes gennych chi ddeunydd neu gynnwys da a allai apelio at bobol yn fyd-eang?

  • A ydych chi wedi gweld cyfle newydd yn y farchnad gynnwys?

    A ydych chi wedi gweld cyfle newydd yn y farchnad gynnwys?

Byddwn yn cefnogi cynnwys nodedig sydd wedi ei Sgriptio neu sydd heb ei Sgriptio sydd â photensial i gael effaith yn y farchnad – o ran creu enw da neu'n ariannol.

Byddwn hefyd yn buddsoddi mewn eiddo deallusol sy'n apelio'n fasnachol – fel llyfrau, gemau, animeiddio, a thechnoleg sy'n seiliedig ar gynnwys.

Gyda'r gefnogaeth gywir, gall ein sector dyfu'n greadigol ac yn fasnachol gan barhau â gwaddol sioeau llwyddiannus S4C yn y gorffennol fel Super Ted, Sam Tân/Fireman Sam ac Un Bore Mercher/Keeping Faith ac yn edrych tua'r dyfodol gyda Y Golau/The Light in the Hall, Dal y Mellt, Gwledd/The Feast ac Y Sŵn.

Crynodeb o nodau'r Gronfa:

  • Cefnogi prosiectau creadigol a fydd yn cynhyrchu elw ariannol
  • Cefnogi prosiectau creadigol a fydd yn denu partneriaid i gydariannu a chydgynhyrchu
  • Cefnogi prosiectau creadigol sy'n gwella'r cyrhaeddiad/effaith a'r gydnabyddiaeth i gynnwys S4C
  • Cefnogi prosiectau sy'n croesawu arloesedd, cyfleoedd masnachol a sgiliau sgrin

Cymhwysedd:

  • Rhaid i'r prif gwmni cynhyrchu fod wedi'i leoli yng Nghymru.
  • Unrhyw gynhyrchiad a gomisiynwyd gan S4C gyda chyfle amlwg i gynhyrchu elw masnachol ar fuddsoddiad, a lle mae uchelgais greadigol y tu hwnt i ffi safonol ar gyfer y genre.
  • Unrhyw brosiect sy'n cael ei ddatblygu, wedi'i fwriadu'n bennaf ar gyfer S4C, sydd â photensial ar gyfer llwyddiant masnachol, gwerth o ran enw da ac i ddenu partneriaid cydweithredol.
  • Gall cynyrchiadau fod yn unrhyw genre, ond bydd blaenoriaethau buddsoddi yn cyd-fynd â blaenoriaethau comisiynu S4C a'r genres hynny sydd fwyaf tebygol o gyflawni nodau ariannol a strategol y gronfa.

Ein meysydd ffocws fydd: Fformatau wedi eu Sgriptio, Ffeithiol Arbenigol, Dogfen, Adloniant Ffeithiol, Plant (dan 6 oed). Animeiddio lle bo'n ymarferol.

Sefydlwyd y Gronfa gan S4C Rhyngwladol Cyf, isgwmni sy'n eiddo llwyr i S4C, sef darlledwr gwasanaeth cyhoeddus Cymru.

Sut i wneud cais:

Am fwy o wybodaeth, cyngor a blaenoriaethau uniongyrchol, cysylltwch â Phennaeth y Gronfa Cynnwys Masnachol, Claire Urquhart: Claire.Urquhart@s4c.cymru

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?