S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Bara Byr Caramel

Bara byr moethus a blasus sydd wythnos yma, ond pwy fydd y pobydd gorau?

CYNHWYSION

225g menyn meddal

125g siwgr caster

1 llwy de halen

340g blawd plaen

AR GYFER Y CARAMEL

(397g) llaeth cyddwys

25g siwgr caster

75g Surop aur (neu surop corn)

120g menyn

I ROI AR BEN

300g siocled llaeth

300g siocled gwyn

DULL

1. Cynheswch eich popty i 180C / ffan 160C, a leiniwch dun sgwâr dwfn 8 modfedd gyda phapur pobi.

2. Hufenwch y siwgr a'r menyn gyda'i gilydd mewn cymysgydd gyda'r atodiad padlo nes ei fod yn llyfn - cymysgwch y blawd nes bod toes wedi'i ffurfio. Mi fydd yn friwsionllyd ond bydd y cynhwysion wedi'u gwasgaru'n gyfartal!

3. Pwyswch y gymysgedd yn gadarn i waelod y tun a'i bobi yn y popty am 20-25 munud

4. Ar ôl ei bobi, tynnwch allan o'r popty a'i adael ar yr ochr. Mewn sosban fawr arllwyswch y llaeth cyddwys, menyn, siwgr, a surop euraidd a'u toddi ar wres canolig nes bod y siwgr wedi toddi - trowch yn aml i atal unrhyw beth rhag ddal.

5. Ar ôl i'r siwgr hydoddi, trowch y gwres i fyny'n uchel a gadewch i'r gymysgedd ddod i ferwbwynt a'i ferwi am 5-7 munud. BYDDWCH YN OFALUS gan fod y gymysgedd yn boeth IAWN a gall eich llosgi os bydd yn tasgu!

6. Bydd y gymysgedd yn barod pan fydd wedi newid i liw euraidd ychydig yn dywyllach, ac wedi tewhau.

7. Arllwyswch y caramel ar ben y bisged shortbread yn y tun, a gadael yr holl beth i setio am awr yn yr oergell.

8. Ar ôl iddo setio, toddwch y siocled llaeth a'i arllwys dros y caramel - toddwch y siocled gwyn a'i arllwys drosto hefyd - chwyrlïwch ef gyda'r siocled llaeth gyda pen sgiwer cacen fel ei fod yn ffurfio patrwm tlws.

9. Oerwch y Shortbread yn ôl yn yr oergell am 1-2 awr arall nes bod y Siocled wedi mynd yn galed

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?