S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Myffins Lemwn a Llus

Mae'r myffins yn dod â dŵr i'ch dannedd, ond rhai Leah neu rhai Ows fydd ddigon da i ennill?

MYFFINS LEMWN A LLUS

CYNHWYSION

Ar gyfer yr Haen Streusel

45g blawd plaen

2 lwy fwrdd o siwgr Demerara

2 lwy fwrdd o fenyn wedi'i doddi

1/4 llwy de o sinamon

Pinsiad o halen

Ar gyfer y Myffins

2 ŵy

320g llaeth enwyn (buttermilk)

70g olew

70g menyn wedi'i doddi

270g blawd plaen

135g siwgr mân

65g siwgr brown meddal

1.5 llwy de powdr pobi

Croen (zest) hanner lemwn

150g llus wedi'u rhewi

DULL

1. Rhowch y 12 cases papur myffins yn y tun.

Haen Streusel

Ychwanegwch y menyn wedi'i doddi, blawd plaen, sinamon, halen, siwgr Demerara.

Cymysgwch gyda fforc, tan fod gennych ddarnau mawr briwsionllyd.

Myffins

1. Cymysgwch yr wyau, llaeth enwyn, olew a menyn wedi'i doddi gyda'i gilydd mewn un bowlen.

2. Mewn powlen wahanol, cymysgwch y blawd plaen, siwgr mân, siwgr brown meddal, powdr pobi, croen lemwn a llus wedi'u rhewi. Cymysgwch tan fod popeth wedi ei gyfuno.

3. Ychwanegwch y gymysgedd sych i'r gymysgedd gwlyb

4. Rhowch y gymysgedd yn y cases myffins

5. Ychwanegwch yr haen streusel ar ben y cytew myffins

6. Pobwch ar 170C gradd am 35-40 munud.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?