S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Y Wobr Fawr - Camera Antur GoPro Hero 10

Dyma dy gyfle DI i ennill GoPro Hero 10 Black Creator Edition!

I gystadlu, rhaid:

Rhoi dy enw, cyfeiriad e-bost, dy oedran a rhif ffôn ar wefan STWNSH SADWRN, neu ffonia ar 08000 727877 neu tecstia SADWRN gyda dy enw i 80800.

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 12:00 ar ddydd Iau, 10fed o Dachwedd 2022 - pob lwc!

CYSTADLEUAETH STWNSH SADWRN CYFLE I ENNILL – 1 GoPro Hero 10 Black Creator Edition.

I gystadlu, rhaid:

Rhoi dy enw, cyfeiriad e-bost, dy oedran a rhif ffôn ar wefan STWNSH SADWRN, neu ffonia ar 08000 727877 neu tecstia SADWRN gyda dy enw i 80800.

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 12:00 ar ddydd Iau, 10fed o Dachwedd 2022.

Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

Dewisir un enillydd ar hap o blith yr enwau sydd wedi cystadlu erbyn y dyddiad a'r amser cau. Bydd penderfyniad Boom Cymru / S4C ynghylch yr enillydd yn derfynol, ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.

PECYN O WOBRAU – 1 GoPro Hero 10 Black Creator Edition.

Mae'n rhaid bod yn 16 oed neu iau i gystadlu.

Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar rhaglen STWNSH SADWRN, dydd Sadwrn y 5ed o Dachwedd, 2022. Bydd Boom Cymru yn cysylltu drwy ffonio'r enillydd ar ôl y dyddiad cau. Bydd y wobr yn cael ei anfon at yr enillydd os yw'r rhiant, warchodwr yn hapus i'w dderbyn.

Trwy gystadlu, mae'r ymgeisydd yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall Boom Cymru / S4C ddefnyddio ei enw a'i llun at ddibenion hyrwyddo.

Ni fydd Boom Cymru ac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Ni ellir derbyn bod prawf anfon e-bost yn cyfateb â phrawf ei bod wedi cyrraedd.

Os na fydd modd i Boom Cymru ac S4C gysylltu â'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd, neu os na fydd modd gwneud trefniadau i ddosbarthu neu gasglu'r wobr yn dilyn ymdrechion rhesymol gan Boom Cymru / S4C i wneud hynny, bydd gan Boom Cymru / S4C yr hawl i roi'r wobr i enw arall a ddewisir ar hap o'r holl geisiadau.

Mae Boom Cymru ac S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau a thelerau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

Ar wahân at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth ac i hyrwyddo enw'r enillydd, ni fydd S4C/Boom Cymru yn defnyddio gwybodaeth bersonol yr ymgeiswyr, ac ni fydd yn defnyddio data o'r fath at unrhyw ddibenion eraill.

Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

Trefnir a hyrwyddir y gystadleuaeth hon gan Boom Cymru, Gloworks, Ffordd Porth Teigr, Caerdydd, CF10, 4GA a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141.

Mae'r gystadleuaeth ar agor i bawb ar wahân i staff S4C, staff cwmni Boom Cymru TV Cyf., aelodau agos o'u teuluoedd a chwmnïoedd sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.

Oherwydd effaith Covid-19, efallai y bydd rhai o'r gwobrau yn amrywio o ganlyniad i argaeledd.

Gall amseroedd dosbarthu gwobrau hefyd amrywio oherwydd effeithiau parhaus Covid-19.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?