S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Tendr ar gyfer Gwasanaethau Archwilio Mewnol S4C

Mae S4C yn rhedeg tendr ar gyfer darpariaeth gwasanaethau archwilio mewnol. Mae'r tendr wedi ei hysbysebu ar Sell2Wales.co.uk. Rhaid i bob busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaethau gwblhau Tendr yn y ffurf y gosodir isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyfleu'r Tendr i S4C yw canol dydd, dydd Gwener 30ain o Awst 2019.

Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r Tendr hwn a/neu'r broses dendro hon at: cwestiynautendr@s4c.cymru Sylwer, os gwelwch yn dda, na ddylid anfon unrhyw ymholiad na chais am wybodaeth ynglŷn â'r broses dendro at unrhyw swyddog, gweithiwr na chynrychiolydd unigol yn S4C.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r Tendr yw canol dydd, dydd Gwener 9fed o Awst 2019.

Gwahoddiad i dendro ar gyfer Gwasanaethau Archwilio Mewnol S4C

Atodiad 1 - Rheolau Sefydlog S4C

Atodiad 3 - Ffurflen Wybodaeth Sylfaenol

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?