Diwrnod ar lan y môr i Lleucu, Colin a Cai, ac mae'n anodd i Lleucu ddygymod â salwch ei thad. Ar y traeth, ceir anghydweld rhwng Dai a Diane ac mae'r diwrnod yn gorffen yn drychinebus. Caiff Ffion ei rhoi mewn sefyllfa lletchwith!
Cyfres deithio newydd lle bydd y cerddor Gwilym Bowen Rhys yn ymweld â'r Wladfa ym Mhatagonia er mwyn darganfod mwy am hanes y Cymry ymfudodd yno yn 1865. Bydd Gwilym yn cwrdd â nifer o bobl leol ar hyd a lled y Wladfa wrth iddo ddysgu am yr hanes, yr iaith, y gerddoriaeth a'r diwylliant. Yn y rhaglen hon, mae Gwilym yn treulio'r diwrnod yn y Gaiman a Dolavon.
Gyda mynediad digynsail, mae'r rhaglen ddogfen ddadlennol hon yn dilyn Joe Allen drwy dymor heb ei ail - ymgyrch o rwystrau, syrpreisys, ac amser i ystyried bywyd, wrth iddo wynebu penderfyniad caletaf ei yrfa: dal ati i chwarae neu cerdded i ffwrdd. Gyda chyfweliadau pwerus ac un gêm olaf yn Abertawe, dyma chwiban olaf Joe.
Wrth i arholiadau criw o ddisgyblion ddod i ben mae’n amser dathlu, ond wrth i’r parti fynd rhagddo mae’r criw yn cael braw wrth wneud darganfyddiad erchyll yng nghanol y tywod