Yn y bennod olaf, mae'r diwrnod mawr wedi cyrraedd - mae'r Mini a Hana yn barod i rasio! Ac os nad oedd hynny'n ddigon, mae 'na ddiwrnod mawr arall yn digwydd... y briodas!
Dau hen ffrind ysgol o Langefni , Ynys Môn sy'n rhannu'r un diddordeb - cadw, hyfforddi a rasio colomennod. Ifan Jones Evans sy'n cwrdd â'r postmon Gerallt Jones a'r syrfëwr Emyr Hughes - ffrindiau bore oes sy'n rhannu'r un dileit ac yn gystadleuol dros ben!
Pan mae Cymru yn mynd i gysgu mae na griw arbennig o bobl yn dechrau eu diwrnod. Yn ymuno â'r garfan ddiwyd yma am un shift unigryw mae'r eicon rygbi a'r dysgwr Cymraeg, Scott Quinnell. Y tro yma, mae Scott yn pobi mewn becws yn Rhuthun ac yn ymweld â Tata Steel yn Llanelli.