S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Hafan Swyddfa'r Wasg S4C

  • Cwis Bob Dydd S4C yn dychwelyd am dymor newydd

    17 Mai 2024

    Bydd tymor newydd o Cwis Bob Dydd S4C yn dechrau ddydd Llun Mai 20fed.

  • Y Llinell Las - Ymosodiad dychrynllyd dau gi XL Bully ar ddefaid: “Un o’r gwaetha’ i mi weld yn fy ngyrfa.”

    15 Mai 2024

    Mae un o swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi sôn am un o'r ymosodiadau cŵn gwaethaf iddo weld yn ei yrfa, pan laddwyd 22 o ddefaid oedd yn cario wyn, ac anafwyd 48 arall.

    Cafodd yr ymosodiad gan ddau gi XL Bully ar fferm ger Wrecsam ei ddal ar gamerâu cyrff y swyddogion wrth iddyn nhw ffilmio cyfres newydd Y Llinell Las ar gyfer S4C.

    Yn ôl Iwan Owen, aelod o'r tîm Troseddau Cefn Gwlad sydd â dros 40 mlynedd o brofiad gyda'r Heddlu, mae ymosodiadau ar ddefaid yn digwydd yn wythnosol yng ngogledd Cymru.

    Fe wnaeth y ffermwr golli gwerth tua £14,000 o anifeiliaid yn yr ymosodiad.

    Bydd modd gweld pennod gyntaf cyfres newydd Y Llinell Las ar S4C am 21:00 ddydd Mawrth 14 Mai, ac hefyd ar S4C Clic a BBC iPlayer.

    Gan fod gymaint o dirlun gogledd Cymru yn dir amaethyddol, mae gan yr Heddlu dîm yn benodol i ymchwilio i droseddau cefn gwlad.

    Mae'r rhaglen yn dilyn yr uned wrth iddyn nhw ymateb i ddau ddigwyddiad o ymosodiadau cŵn XL Bully ar ddefaid.

    Dywedodd Iwan:

    "Mae'n siŵr bod y gang traffig yn cael llond bol o bobl sy'n yfed a gyrru. Wel, i ni, y poeni defaid sydd yn dod drosodd a drosodd."

    "Be uffern ma rywun isho XL Bully? Dwim yn dalld pam bo chdi isio ci o'r ffasiwn beth mewn tŷ, mewn cartref. Meddylia pa mor gryf ydyn nhw, faint o niwed fysa nhw'n medru neud – mae'n beryg bywyd."

    "Maen nhw [ffermwyr] yn hogia' calad – maen nhw 'di hen arfer efo cŵn a chael gafael ar gi, ond fysa chdi ddim yn cymryd gafael ar XL Bully. Does na ddim llawer o chance i chdi gerdded o 'na heb gael dy anafu yn ofnadwy."

    Ond mae cŵn hefyd yn rhan hanfodol o waith yr heddlu.

    Mae PC Siôn Parry yn swyddog gyda Heddlu Gogledd Cymru ers dros 15 mlynedd ac mae gweithio i'r Uned Gŵn yn uchelgais yn ei yrfa.

    Dywedodd Siôn:

    "Dwi bob tro yn cymharu ci i ddeg plisman. A mwy weithiau. Ma pobl isio cwffio efo plismyn, s'neb isio cwffio efo ci.

    "Ti'n mynd at rywun a deud wrthyn nhw i adael a ma' 'na gi yn glafoerio ac yn cyfarth – ti'n gadael, dwyt, os ti'n gall."

    Yn y bennod yma, rydym yn dilyn Siôn yn ymateb i ddigwyddiadau ble mae ci yn gallu bod yn ddefnyddiol - yn benodol mewn achos o ddwyn car ble mae'r troseddwyr yn rhedeg i ffwrdd o'r safle.

    "Ma'n bleser ei gwatchad nhw'n gweithio...Ddim fi sy'n neud y gwaith – y ddau gi 'di'r petha' clyfar, jyst y chauffeur dwi!"

    Yn ogystal â'r Tîm Troseddau Cefn Gwlad a'r Uned Gŵn, mae'r gyfres 6 pennod wedi cael mynediad at waith heriol yr Uned Traffig, yr Uned Gwrthdrawiadau a'r Swyddfa Reoli yn Llanelwy.

  • Côr Ifor Bach yn ennill Côr Cymru 2024

    12 Mai 2024

    Côr Ifor Bach yw enillwyr cystadleuaeth gorawl fawreddog S4C Côr Cymru 2024.

  • S4C yn penodi Pennaeth Adloniant ac Adloniant Ffeithiol newydd

    9 Mai 2024

    Mae S4C wedi penodi Beth Angell yn Bennaeth Adloniant ac Adloniant Ffeithiol newydd.

  • Cytundebau cyntaf yn cael eu harwyddo gan gronfeydd S4C

    6 Mai 2024

    Mae S4C wedi cyhoeddi'r cytundebau cyntaf i gael eu cwblhau gan eu Cronfa Twf Masnachol a'u Cronfa Cynnwys Masnachol.

  • Cytundebau cyntaf yn cael eu harwyddo gan gronfeydd S4C

    6 Mai 2024

    Mae S4C wedi cyhoeddi'r cytundebau cyntaf i gael eu cwblhau gan eu Cronfa Twf Masnachol a'u Cronfa Cynnwys Masnachol.

  • S4C i ddarlledu ‘Y Llais’ – fersiwn Gymraeg o ‘The Voice’

    2 Mail 2024

    Bydd S4C yn darlledu fersiwn Gymraeg o'r gyfres deledu fyd-eang boblogaidd, The Voice. Mi fydd 'Y Llais' yn cael ei gynhyrchu gan Boom Cymru, rhan o ITV Studios, ac yn cael ei ddarlledu yn 2025.

  • Tri ar daith ben arall y byd i S4C

    17 Ebrill 2024

    Mae camerâu S4C wedi dilyn y gomediwraig Kiri Pritchard-McLean, y cogydd Chris 'Flameblaster' Roberts a'r cyflwynydd Alun Williams ar daith fythgofiadwy o amgylch Seland Newydd.

  • S4C ar gael ar wasanaeth ffrydio newydd Freely

    30 Ebrill

    Bydd gwylwyr yn gallu gwylio rhaglenni S4C ar Freely, gwasanaeth ffrydio newydd ar gyfer y DU.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?