S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cwestiynau

Oes modd gwylio S4C y tu allan i Gymru?

Oes. Mae S4C ar gael ar Sky 134, Freesat 120 a Virgin TV 164 yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'n darlledu'n fyw ar s4c.cymru/clic/ trwy Brydain. Mae gan S4C wasanaeth gwylio ar alw, s4c.cymru/clic/, sydd ar gael trwy Brydain a rhai rhaglenni yn fyd eang.

Sut mae cael isdeitlau ar S4C?

Mae isdeitlau Saesneg ar gael ar y rhan fwyaf o raglenni S4C. Mae isdeitlau Cymraeg hefyd ar gael ar rai rhaglenni. Symbol y dylluan sy'n dangos a oes isdeitlau ar gael neu beidio. Dilynwch y canllawiau ar eich teclun rheoli o bell i gael isdeitlau. Weithiau mae S4C yn darlledu rhaglenni gydag isdeitlau ar y sgrîn. Mae isdeitlau hefyd ar gael ar wasanaeth gwylio ar alw S4C Clic.

Mwy o wybodaeth am isdeitlau

Oes modd cael sylwebaeth Saesneg ar ddarllediadau chwaraeon ar S4C?

Mae sylwebaeth Saesneg ar gael ar rai darllediadau chwaraeon i wylwyr sy'n gwylio S4C ar Sky, Freesat, Freeview, a Virgin Media trwy'r botwm coch.

Oes modd prynu nwyddau S4C?

Mae rhai rhaglenni, gan gynnwys rhaglenni plant, ar gael i'w prynu ar DVD ac ar werth mewn siopau ledled Cymru ac arlein. Mae cynnwys S4C ar gael ar gyfer sefydliadau addysgol sy'n dal trwydded ERA, neu drwy wasanaethau a gynigir gan Clickview ac Estream. Ceir rhagor o fanylion am drwydded ERA ar eu gwefan https://era.org.uk/the-licence/. Mae llyfrau yn ymwneud â rhaglenni a phersonoliaethau S4C ar gael i'w prynu mewn siopau ledled Cymru ac arlein.

Mwy o fanylion am nwyddau Cyw

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r Wifren Gwylwyr

Sut ydw i'n cael cyhoeddusrwydd ar S4C ar gyfer digwyddiad neu stori newyddion?

Os oes gennych stori newyddion cysylltwch â BBC Cymru yn uniongyrchol, gan mai'r BBC sy'n cynhyrchu gwasanaeth newyddion S4C. Neu fe allwch gysylltu â chwmni Tinopolis yn Llanelli.

Sut mae lleisio barn am S4C?

Mae aelodau'r Awdurdod a swyddogion S4C yn cynnal Nosweithiau Gwylwyr cyhoeddus yn rheolaidd, mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae croeso i wylwyr ddod i'r digwyddiadau hyn i drafod S4C. Mae gwylwyr hefyd yn gallu cysylltu â'r Wifren Gwylwyr i fynegi barn.

Mae gen i syniad am raglen ar gyfer S4C - beth ydw i'n gwneud?

Rydym yn barod i dderbyn syniadau all ateb gofynion comisiynu S4C a rydym yn rhoi ymateb sydyn i unrhyw syniad. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan cynhyrchu S4C.

Lle mae dod o hyd i amserlenni rhaglenni S4C?

Manylion llawn amserlen S4C

Am fwy o fanylion cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?