S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cwestiynau Cyffredin

Cefndir

Fe ddechreuodd S4C ddarlledu am 18:00 nos Lun 1 Tachwedd 1982. I ddechrau, 22 awr o raglenni Cymraeg oedd yn cael eu darlledu bob wythnos, ochr yn ochr â rhaglenni Saesneg o wasanaeth Channel 4. Heddiw, mae S4C yn sianel gyfan gwbl Gymraeg yn darlledu dros 115 awr o raglenni bob wythnos. Cwmnïau cynhyrchu annibynnol sy'n creu'r rhan fwyaf o raglenni S4C. Mae ITV Cymru hefyd yn cael ei gomisiynu i gynhyrchu rhaglenni. Mae BBC Cymru yn cynhyrchu tua deg awr yr wythnos o raglenni ar gyfer S4C, gan gynnwys y newyddion a'r sebon dyddiol Pobol y Cwm, wedi'u hariannu o ffi'r drwydded. Mae prif swyddfa S4C yng Nghanolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin ac mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaernarfon, Gwynedd, ac yn Sgwâr Canolog, Caerdydd.

Mwy o wybodaeth

Pam sefydlwyd S4C?

Cyn 1982, roedd rhai rhaglenni Cymraeg yn cael eu darlledu ar BBC 1 ac ITV. Yn ystod y 1970au, fe benderfynodd llywodraeth Prydain y byddai pedwaredd sianel deledu yn cael ei sefydlu, i ymuno â BBC 1, BBC 2 ac ITV. Roedd y sianel newydd hon yn cael ei hystyried gan nifer yn gyfle ar gyfer dechreuad newydd ym maes darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Yn dilyn ymgyrchu dwys, sefydlwyd S4C gan Ddeddfau Darlledu 1980/1981.

Pwy sy'n ariannu S4C?

Ers mis Ebrill 2013, daw tua 90% o gyllid S4C o ffi'r drwydded drwy gytundeb rhwng Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC. Mae'r cytundeb yn para tan 2022. Mae oddeutu 8% yn cael ei gynnal gan Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) Llywodraeth y DU tan 2018. Mae gan S4C rai pwerau i gynhyrchu incwm masnachol, er enghraifft drwy werthu hysbysebion, a daw tua 2% o gyllid y sianel o'r ffynonellau hyn.

I bwy mae S4C yn atebol?

Mae Bwrdd Unedol S4C yn awdurdod darlledu annibynnol sy'n gyfrifol am bolisi strategol y sianel. Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon llywodraeth Prydain sy'n gyfrifol am benodi Cadeirydd ac aelodau Bwrdd Unedol S4C yn dilyn proses benodi gyhoeddus.

Pa fath o raglenni sydd ar S4C?

Mae S4C yn darlledu gwahanol mathau o raglenni, gan gynnwys chwaraeon, drama, cerddoriaeth, ffeithiol, newyddion, adloniant a digwyddiadau, ar nifer o lwyfannau, gan gynnwys y we. Mae S4C yn cynnig gwasanaethau helaeth ar gyfer plant: Cyw ar gyfer gwylwyr iau, Stwnsh ar gyfer plant hŷn a rhaglenni ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu harddegau.

Sut mae gwylio S4C?

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

  • Sut i wylio S4C

    Sut i wylio S4C

    Ar ba sianel deledu mae S4C? Ydy S4C ar gael ar-lein? Pa ddyfeisiau alla'i ddefnyddio i wylio S4C? Yr atebion i gyd ar un dudalen.

Rhagor o wybodaeth

Am fanylion pellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â gwasanaeth gwybodaeth S4C, y Wifren Gwylwyr.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?