S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Amdanom ni

Strwythur S4C

Mae S4C yn cael ei reoli gan Fwrdd sy'n cynnwys rhai o Dîm Rheoli'r Sianel ac Aelodau Anweithredol - sef pobol sy ddim yn gweithio llawn amser i S4C ac yn cael eu penodi gan Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan.

Mae'r Bwrdd yn asesu perfformiad gwasanaethau S4C yn fisol.

Y Cadeirydd sy'n arwain y Bwrdd.

Prif Weithredwr y Sianel ydi pennaeth y Tîm Rheoli a holl staff y Sianel. Y Tîm Rheoli sy'n gyfrifol am benderfyniadau golygyddol a chomisiynu'r Sianel o ddydd i dydd.

Mae Bwrdd S4C yn gwneud yn siŵr fod gwasanaethau S4C yn ymateb i anghenion y gynulleidfa.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?