S4C
Dewisiadau

Cynnwys

S4C a'r Gymuned

Gall unigolion gyfathrebu'n rhwydd gydag S4C ac mae S4C yn gwneud rhaglenni ac yn cynnal digwyddiadau'n rheolaidd ledled Cymru.

Ers ei sefydlu, bu'r gynulleidfa'n rhan hanfodol o lwyddiant S4C. Mae cymunedau amrywiol Cymru yn rhan annatod o'r hyn yw S4C - ac mae S4C, yn ei thro, yn rhan annatod o fywyd cymunedau Cymru.

Ar y sgrîn

Yn berfformwyr, cyflwynwyr ac actorion, doniau o Gymru ac wedi eu meithrin yng Nghymru yw cynsail rhan helaeth o'r gwasanaethau a gynigir gan S4C. Caiff llawer o'r rhaglenni a welir ar S4C hefyd eu ffilmio ar leoliad mewn gwahanol ardaloedd o Gymru ac mae cynulleidfaoedd o wahanol froydd yn rhan annatod o lwyddiant ambell raglen.

Adlewyrchir bwrlwm gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol cymunedau Cymru ar y gwasanaeth Newyddion bob dydd. Bydd barn pobl o bob cefndir, anian, oedran a chwr o Gymru a thu hwnt i'w glywed ar raglenni materion cyfoes S4C a'r cylchgrawn nosweithiol, Heno.

Ar y ffôn, trwy lythyr neu e-bost

Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn defnyddio gwasanaeth Gwifren Gwylwyr S4C i fynegi barn am raglenni neu holi am eu cynnwys a'u hamseroedd. Ar ben arall y ffôn mae gweithredwyr cyfeillgar y Wifren bob amser yn barod i helpu ac i nodi pob galwad. Pa bynnag ymholiadau neu'r sylwadau sydd gan wylwyr, dyma'r gwasanaeth sy'n cario'u llais personol nhw at galon y gwasanaeth.

Ar safle S4C ar y We

Ceir toreth o wybodaeth a chystadlaethau ar wefan S4C ac yno hefyd mae'r Bwrdd Negeseuon, lle gall pobl ledled y byd gyfnewid negeseuon a syniadau. Agorir Siop Siarad S4C yn rheolaidd ar gyfer sesiynau gan rai o sêr a gwneuthurwyr rhaglenni'r sianel - cyfle euraid i holi a mynegi barn. Unwaith y flwyddyn, bydd Cadeirydd S4C hefyd yn cynnal cyfarfod o'r fath yn y Siop Siarad.

Rhyngweithio

Gyda nifer cynyddol o raglenni, mae modd i wylwyr gael mewnbwn uniongyrchol i'r cynnwys. Trwy ffonio, ffacsio neu e-bostio gall gwylwyr gyfrannu at gystadlaethau a thrafodaethau.

Noson Gwylwyr S4C

Bedair gwaith y flwyddyn, fel rhan o'i ymrwymiad i fod yn atebol i wylwyr, bydd Awdurdod S4C yn cynnal noson agored mewn gwahanol ardaloedd o Gymru. Cynhelir y cyfarfodydd hyn fel estyniad o'i gyfarfodydd misol ac yn ogystal â mynegi barn a holi Cadeirydd a Phrif Weithredwr S4C, rhydd pob cyfarfod gyfle i bobl drafod dyfodol darlledu yng Nghymru.

Mewn Eisteddfodau a Sioeau

Bydd S4C yn ymweld â nifer fawr o froydd Cymru trwy ei phresenoldeb ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a'r Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd. Bwrlwm o ddigwyddiadau, arddangosfeydd ac adloniant sydd i'w gael yno fel arfer, fel y tystia'r miloedd sy'n galw heibio.

Mae Taith Haf S4C yn gyfle i ymweld â digwyddiadau llai o faint, yn ffeiriau lleol a sioeau amaethyddol. Yn ogystal â bod yn gyfle i gwrdd â rhai o sêr y sianel, bydd y daith hon yn cynnig cystadlaethau a llond trol o hwyl.

Apêl Flynyddol S4C

Bydd S4C yn dewis un elusen i fod yn ffocws penodol i'w Hapêl Flynyddol. Yn ogystal â rhoi sylw sylweddol i'r elusen ar y y sgrîn, cynigir cymorth ymarferol i'w galluogi i hybu ei hun yn well, gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth yn ogystal ag arian. Ymysg yr achosion da sydd eisoes wedi elwa mae MENCAP, Tenovus a Sefydliad Prydeinig y Galon. Hysbysebir yn eang i annog ceisiadau gan achosion da mor amrywiol â phosibl.

Nawdd

Caiff cyrff mor amrywiol â Cherddorfa Genedlaethol Cymru, y Sioe Amaethyddol Frenhinol ac Chwmni Opera Canolbarth Cymru eu noddi'n flynyddol gan S4C - arwydd pellach o ymrwymiad S4C i gymunedau Cymru.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?