Mae gan Fwrdd S4C bum pwyllgor sy'n goruchwylio gwahanol agweddau o waith S4C. Mae ganddo hefyd fwrdd cyfarwyddwyr ar gyfer cwmnïau masnachol S4C.
Mae'r pwyllgorau'n adrodd yn ôl yn rheolaidd i'r Bwrdd, gyda'r Bwrdd yn cymeradwyo argymhellion y pwyllgorau.
Mae gan Gadeirydd y Bwrdd yr hawl i fynd i gyfarfodydd y pwyllgorau fel sylwebydd.
Mae'r Pwyllgor Archwilio a Risg yn cefnogi'r Bwrdd a'r Prif Weithredwr (fel Swyddog Cyfrifo S4C) mewn perthynas â threfniadau rheolaeth fewnol a sicrwydd y sefydliad. Mae'n atebol i'r Bwrdd.
Mae gan y Panel Cwynion swyddogaeth yn unol â Phroses Gwynion S4C i ystyried cwynion yn ymwneud â materion cydymffurfiaeth neu reoleiddio mewn perthynas â chynnwys S4C, neu gwynion yn ymwneud â materion eraill pan fydd y cwynwyr am gyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad y Prif Weithredwr.