Coctel corgimwch Jamaican
Cynhwysion
Marinêd jerk:
Does 'na ddim union amounts yn y jerk yma, go with the flow efo be 'da chi'n licio - dwi'n licio hi'n BOETH!
- rhosmari ffres
- teim ffres
- halen môr
- aeron pimento sych / 'allspice'
- tsili scotch bonnet
- shibwns
- nytmeg cyfan ffres
- zest a sudd leim
- sinsir ffres
- ewin garlleg wedi'u plicio
- sinamon mâl
- mêl rhedegog
- dail bae
- persli ffres
- tsili cymysg
- reis olew olewydd (dim extra virgin)
- finegr seidr afal
Bwyd môr:
- 1kg corgimwch (dwi'n defnyddio prawns mawr, pen a cynffon dal ar, wedi'i 'de-veinio' gan y fishmonger)
- rym Cymreig
I orffen:
- letys iceberg
- saws Marie Rose (cymysgedd o mayo, sos coch, Worcestershire sauce, sudd lemwn, halen môr)
Dull Chris
Marinêd jerk:
- Fedrwch chi 'neud y marinâd mewn blendar ond bydd o'n blasu'n lot gwell mewn 'pestle & mortar'! I mewn efo'r dail rhosmari, teim a halen môr a'u malu'n dda cyn ychwanegu'r pimento.
- Bash arall, yna i mewn 'efo'r Scotch bonnets a shibwns, gratio'r nytmeg i mewn yna ychwanegu bob dim arall.
- Cario 'mlaen i greindio tan bod 'na past tew.
- Glug dda o olew olewydd a finegr i orffan.
Bwyd môr:
- Marineidio'r prawns am tua hanner awr a 'newch yn siŵr bod pob darn o'r prawns wedi'i orchuddio efo jerk!
- Mae jerk ar ei ora ar y BBQ dros tân a mwg, ond bydd o dal yn neis ar y badell yn eich cegin adra.
- I mewn efo'r prawns i'r badell poeth, gadael y prawns gael lliw / 'char' da cyn troi nhw. Munud neu ddau bob ochr. Gorffen efo flambé o rum - 'dwi'n defnyddio un Cymreig o Ynys Môn!
I orffen:
- Serfio efo letys iceberg wedi'i shredio, saws Marie Rose, a toppio efo'r jiwsys a'r jerk o'r badell. BOOM! '70s mewn powlen - 'sa nain 'di bod yn chuffed.
Rysáit gan Chris Roberts a'i westeion arbennig (Bwyd Byd Epic Chris).
Instagram: @flamebaster
Twitter: @FLAMEBASTER