S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Hysbysebu ar S4C

Sut i Hysbysebu

Asiantaeth Werthu

Axiom Media yw'r tîm sy'n gwerthu amser darlledu ar gyfer S4C. Byddant yn eich helpu i wneud y gorau o'ch cyllideb drwy roi cyngor ar y defnydd gorau posibl o wasanaethau teledu a digidol S4C i gwrdd â'ch amcanion cyfathrebu orau. Mae S4C ar gael ar y gwasanaethau a nodir isod:-

Teledu yng Nghymru: Freeview 4 (HD 104) | Sky 104 | Virgin Media TV 104 | Freesat 104

Teledu yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon: Sky 134 | Virgin Media TV 164 | Freesat 120

Ffrydio byw digidol a fideo ar alw: Gwefan - www.s4c.cymru/clic | Ap Symudol S4C Clic – ar gael ar iOS ac Android | Ap S4C Clic ar setiau teledu cysylltiedig– o siop apiau eich gwneuthurwr teledu.

Mae ein cyfleoedd hysbysebu yn cynnwys ar ffurf hysbysebu sbot ar deledu a fideo digidol, noddi sianel, platfform digidol a rhaglenni, ariannu cynnwys penodol, yn ogystal â chyfleoedd integredig traws cyfryngol i sicrhau'r elw mwyaf posibl ar fuddsoddiad.

Dylid archebu amser darlledu a chymeradwyo ymgyrchoedd drwy Axiom Media drwy system archebu Caria neu drwy anfon e-bost at operations@axiommedia.co neu at y cynrychiolwyr gwerthiant a nodir isod:

Jason Hill - e-bost: jhill@axiommedia.co / rhif ffôn: 07568 187594 | Alex Butler – e-bost: abutler@axiommedia.co / rhif ffôn: 07576 139993

Dylid hefyd anfon copi o gyfarwyddiadau trwy'r system Caria neu eu hanfon trwy e-bost at traffic@axiommedia.co

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?