''Mae hysbysebion yn y Gymraeg yn creu gwell argraff o'r cwmni/cynnyrch'' [Ffynhonnell: TRP 2018]
Mae defnyddio'r Gymraeg yn dangos eich bod yn falch o'r ffaith eich bod yn gwneud busnes yng Nghymru, ac mae'n dangos eich bod yn parchu diwylliant a chymuned y wlad.
Beth am siarad â'ch cwsmeriaid yn eu hiaith eu hunain?
Gallwn roi cyngor i chi ar sut i wneud hyn a'ch helpu gyda'r broses o drosleisio hysbysebion Saesneg i'r Gymraeg. Mae gennym nifer o bartneriaethau gyda chwmnïau cynhyrchu a byddwn yn fwy na pharod i'ch rhoi mewn cysylltiad â nhw.
Cysylltwch â Huw.potter@sky.uk neu Dylan.Jones@sky.uk
Caerdydd 029 2074 1475 / 029 2074 1392