S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Angharad Jones

11 Ionawr 2010

Ar ran S4C, dywedodd Iona Jones, "Tristwch o’r mwyaf oedd clywed am farwolaeth Angharad Jones.  Fe wnaeth Angharad gyfraniad enfawr i fyd y ddrama yng Nghymru a bu’n gyd-weithiwr ysbrydoledig. Yn ystod ei chyfnod fel Comisiynydd Drama S4C fe gomisiynodd sawl cynhyrchiad llwyddiannus, gan gynnwys cyfresi drama Con Passionate; Fondue, Rhyw a Deinasors; Talcen Caled a Caerdydd a ffilmiau megis Eldra a Gwyfyn. Fe fydd colled fawr ar ei hôl ac estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i'w theulu a'i ffrindiau."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?