Y Wasg

Y Wasg

S4C yn talu teyrnged i Robin Jones

17 Ionawr 2010

Meddai llefarydd ar ran S4C:

“Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth Robin Jones. Roedd yn gonglfaen i S4C yn nyddiau cynnar arloesol y Sianel ac fe wnaeth gyfraniad amhrisiadwy fel un o’n cyhoeddwyr cyntaf. Gyda’i arddull gyflwyno naturiol a chynnes a’i agwedd broffesiynol drwyadl, roedd yn ffefryn ymhlith gwylwyr ac yn un a enillodd barch mawr o fewn y byd darlledu. Hoffem i gyd yn S4C estyn ein cydymdeimlad dwysaf i’w deulu.”