13 Awst 2010
Bydd Prif Weithredwr S4C, Arwel Ellis Owen, yn cynnal digwyddiad arbennig i gwmnïau cynhyrchu annibynnol yn Llandrindod ddydd Sul 22 Awst.
Pwrpas y diwrnod fydd cael trafodaethau agored a chynnal gweithdai gyda chynrychiolwyr y sector gynhyrchu ar sut i gydweithredu mewn cyfnod o her i’r Sianel a’r sector annibynnol.
Cynhelir y digwyddiad yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod.