12 Mai 2010
Mae S4C wedi cyhoeddi bod dau gwmni wedi cael cynnig cytundebau i gynhyrchu cynnwys ar gyfer darpariaeth y sianel i bobl ifanc.
Mae’r cynnig i gwmnïau Rondo Media Cyf ac Antena Cyf yn rhan o drydydd cymal strategaeth S4C ym maes plant a phobl ifanc. Mae gwerth y buddsoddiad yn y ddarpariaeth dros £7 miliwn dros dair blynedd.
Yn ogystal bydd trafodaethau gyda Cwmni Da Cyf ynglyn â datblygu un prosiect penodol.
Fe ddaw’r cyhoeddiad yn dilyn proses dendr agored a chystadleuol.