24 Mai 2010
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth San Steffan am doriadau o £6.2bn mewn gwariant cyhoeddus, mae S4C wedi gwneud y datganiad canlynol:
“Gall S4C gadarnhau gostyngiad yn eu cyllideb wrth Yr Adran Dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon am y flwyddyn hon o £2filiwn. Bydd S4C yn ymdrechu i sicrhau na fydd y toriad yn effeithio ar wasanaethau i’r gwylwyr. Er hynny, byddai’n rhaid ystyried unrhyw doriadau pellach yng nghyllideb S4C yn nhermau effeithiau niweidiol ar wasanaethau ac ar gyfraniad economaidd S4C.”