Y Wasg

Y Wasg

S4C yn gwrando

02 Awst 2010

 Mae gan wylwyr S4C gyfle arbennig i leisio barn am y sianel ac am ei harlwy mewn cyfarfod cyhoeddus yng nghwmni’r Prif Weithredwr newydd, Arwel Ellis Owen, a’r Cadeirydd, John Walter Jones.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ym Mhafiliwn S4C ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd. Y newyddiadurwr Dylan Iorwerth fydd yn arwain y drafodaeth nos Fawrth, 3 Awst am 18:00.