S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Teifi yn ennill Fferm Ffactor 2010

30 Gorffennaf 2010

Teifi Jenkins, ffermwr o Beulah ger Castell Newydd Emlyn, sydd wedi cipio teitl ‘Ffermwr Gorau Cymru’ ar gyfres Fferm Ffactor S4C, gan hawlio’r brif wobr - cerbyd 4x4 Isuzu Rodeo Denver newydd sbon.

Daeth Teifi, sy’n 28 oed, i’r brig ar ôl creu argraff ar feirniaid swyddogol y gyfres, Dai Jones a’r Athro Wynne Jones, trwy gydol y gystadleuaeth. Yn y rownd derfynol, a ddarlledwyd yn fyw ar S4C , llwyddodd unwaith eto i blesio’r beirniaid wrth iddo fynd ati i annerch cynulleidfa ym Mhlasdy Glynllifon.

Yn y rownd olaf bu’n rhaid i Teifi frwydro’n galed am ei safle yn erbyn cystadleuaeth gref gan Iwan Price o Gerrigydrudion a Phillip Reed o Aberteifi.

Roedd Teifi eisoes wedi ennill beic modur yn y rownd gynderfynol a gynhaliwyd yn ystod y Sioe Frenhinol ar faes y sioe yn Llanelwedd.

Meddai Teifi, “Allai ddim credu’r peth - ro’n i’n gwybod ei fod yn mynd i fod yn agos iawn ar y diwedd ac roedd y ddau arall yn gystadleuwyr cryf iawn. Dwi’n hapus iawn i gael ennill y beic modur wythnos diwethaf a nawr y cerbyd hefyd!”

“Cysondeb oedd y nod - nid ennill bob wythnos ond bod yn ddigon agos i guro’r drws. Rwy’n licio sialens ac rwy’n feirniadol iawn o waith fy hun drwy osod targedau uchel i fi fy hun a gwella ym mhob agwedd o fywyd. Mae’r beirniad wedi bod yn chwilio am lysgennad i’r diwydiant a ro’n i wastad yn credu y gallwn gymryd y rôl honno.”

Cafodd Teifi lawer o hwyl ar y tasgau ac fe ddangosodd ei fod yn ffefryn trwy ennill y rownd derfynol gyda sialens beic modur ar faes y Sioe Frenhinol yr wythnos flaenorol.

“Rwy’n credu bod y beirniad wedi bod yn eithaf teg, ond maen nhw wedi gofyn ambell gwestiwn pigog ar adegau i drio dal ni mas. Mae wedi bod yn brofiad da - rwy wedi ennill naw ffrind newydd a chael crwydro i gorneli o Gymru a oedd yn ddieithr imi cyn hynny. Mae’r gystadleuaeth wedi magu fy hyder ac rwy wedi cael amser gwych.”

Mae Teifi yn dilyn Aled Rees o Aberteifi, a enillodd y teitl yn y gyfres gyntaf, gan fynd ati i weithio fel llysgennad i’r diwydiant.

Mae Fferm Ffactor yn chwilio am gystadleuwyr brwdfrydig i gystadlu yn y gyfres nesaf, a ddarlledir yn 2011. Am fwy o fanylion, ewch i’r wefan: s4c.co.uk/ffermffactor.

Diwedd

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?