S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn comisiynu asesiad economaidd

06 Awst 2010

 Mae S4C wedi comisiynu adroddiad newydd er mwyn mesur effaith y Sianel ar economi Cymru.

Bydd cwmni DTZ mewn partneriaeth gyda'r Uned Ymchwil Economaidd Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn gwneud yr asesiad o wariant y Sianel er mwyn mesur yr effaith ar gyflogaeth a’r economi ehangach.

Mae cyfraniad S4C at economi Cymru wedi ei gydnabod gan y rheolydd darlledu Ofcom a gan Adroddiad Hargreaves ar y Diwydiannau Creadigol.

Yn 2007 comisiynodd S4C astudiaeth annibynnol i asesu a mesur effaith gweithgareddau’r sianel ar economi Cymru. Dangoswyd yn yr asesiad hwnnw bod gweithgareddau’r Sianel yn gyfrifol am greu 2,250 o swyddi yn y sector cynhyrchu annibynnol ac mewn meysydd eraill.

Er mwyn diweddaru’r wybodaeth, mae S4C wedi comisiynu’r adroddiad i asesu cyfraniad y Sianel rhwng 2007 a’r presennol. Bydd yr adroddiad yn barod erbyn yr hydref cynnar.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?