S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Syr Jon Shortridge i gynnal adolygiad o lywodraethiant gorfforaethol S4C

19 Awst 2010

  Mae Awdurdod S4C wedi comisiynu Syr Jon Shortridge, cyn Ysgrifennydd Parhaol i Lywodraeth Cynulliad Cymru, i gynnal adolygiad o’i drefniadau yn ymwneud â llywodraethiant gorfforaethol.

Disgwylir i’r adolygiad gael ei gwblhau mewn 6 wythnos, gyda’r bwriad o adeiladu ar arfer da presennol ac o adlewyrchu datblygiadau cyfredol mewn llywodraethiant cyrff cyhoeddus modern. Bydd y trefniadau newydd yn cymryd lle system o lywodraethiant gorfforaethol a elwir yn Arwahanrwydd a gyflwynwyd gan yr Awdurdod yn 2006.

Mae’r adolygiad yn rhan o arolwg ehangach gan yr Awdurdod o weithgareddau’r Sianel.

Mae Awdurdod S4C yn gorff annibynnol, a sefydlwyd gan statud, sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau rhaglenni teledu yn yr iaith Gymraeg. Mae’r Awdurdod yn atebol am gynnyrch S4C ac am reolaeth gywir S4C. Nid yw’r Awdurdod yn ymwneud ag unrhyw benderfyniadau a wneir o ddydd i ddydd. Cyfrifoldeb y Prif Weithredwr, swyddogion a staff S4C yw rheoli a chynnal S4C o ddydd i ddydd, gan gynnwys darparu gwasanaethau teledu S4C.

Syr Jon Shortridge oedd y prif was sifil yng Nghymru am bron 10 mlynedd. Daeth yn Ysgrifennydd Parhaol y Swyddfa Gymreig ym mis Mawrth 1999 a’r Cynulliad Cenedlaethol adeg ei greu ym mis Mai 1999. Ym mis Mai 2007 daeth yn Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ymddeolodd ym mis Mai 2008, ond dychwelodd i Whitehall am gyfnod byr yn ysgrifennydd parhaol dros dro'r Adran Arloesedd, Prifysgolion a Sgiliau (ac wedi hynny’r Adran Fusnes, Arloesedd a Sgiliau) yn haf 2009.

Mae erbyn hyn yn Gadeirydd Gwasanaeth Gwirfoddolwyr yn y Gymuned, yn aelod o Awdurdod Ystadegau’r DU, yn Gadeirydd Pwyllgor Archwilio’r Ombwdsmon Seneddol a’r Gwasanaeth Iechyd a Phanel Archwilio Cyngor Sir Caerdydd ac yn aelod o Gyngor Prifysgol Caerdydd. Fe’i hurddwyd yn farchog yn 2002.

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

•  Mae S4C yn derbyn arian trwy gymorth grant, a ddarperir gan yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), yn seiliedig ar fformiwla statudol. Mae hefyd yn cynhyrchu peth refeniw masnachol. Esbonnir ei dyletswyddau statudol yn Neddf Cyfathrebiadau 2003 a Deddfau Darlledu 1990 ac 1996.

•  Gellir trefnu cyfweliadau â’r cyfryngau gyda chynrychiolydd yr Awdurdod ynglŷn â’r uchod. Cysylltwch ag adran Gyfathrebu S4C ar 029 2074 1451.

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?