S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Torri Record Rasio Harnes Prydain yn Fyw ar S4C

20 Awst 2010

  Mae Clwb Rasio Harnes Prydain - y BHRC - wedi cadarnhau bod ras a gafodd ei dangos yn fyw ar raglen Rasus S4C o Ddyffryn Aman ddydd Llun 16 Awst, wedi torri record Brydeinig.

Cafodd y record ei thorri yn ystod rownd ddiweddaraf cystadleuaeth Crochan Aur S4C wrth i’r march Doonbeg redeg milltir mewn un munud a 53.7 eiliad, gan dorri’r record Brydeinig.

Darlledwyd y ras yn rhan o’r gyfres Rasus ar S4C a oedd yn darlledu’n fyw o Noson y Merched yng Nghlwb Trotian Dyffryn Aman yn Sir Castell-nedd Port Talbot.

Gallwch wylio’r ras ar-lein drwy wasanaeth ar alw S4C, s4c.co.uk/clic ac ar wefan Rasus s4c.co.uk/rasus.

Mae Doonbeg yn cael ei hyfforddi yn Iwerddon gan ei berchennog Christy Dunne, a’i fab Jonathan oedd yn gyrru. Cafodd Doonbeg yrfa lwyddiannus yn ei gartref yng Nghanada ac yna yn yr UDA.

Bu’n rhaid i’r ceffyl ymddeol yn ifanc oherwydd problemau iechyd, ond mae dulliau hyfforddi naturiol y teulu Dunne wedi rhoi ail wynt i yrfa Doonbeg ac mae bellach yn gryfach nag erioed.

Dywedodd Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Rhian Gibson, “Mae’n briodol iawn bod S4C wedi darlledu'r digwyddiad pwysig yma yn fyw ar raglen Rasus. Mae’n adlewyrchu ein hymroddiad i ddarlledu digwyddiadau byw ym mhob cwr o Gymru ac yn atgyfnerthu’n hymrwymiad i ddarparu’r gwasanaeth darlledu gorau ar gyfer rasio harnes.”

Meddai Geraint Lewis, cynhyrchydd y gyfres Rasus: “Roedd hi’n noson fythgofiadwy o rasio trotian ac roedd gweld record Brydeinig yn cael ei thorri yn fyw ar Rasus yn brofiad gwych. Nid y ceffyl hynod hwn yn unig sy’n haeddu’r clod ond hefyd Clwb Trotian Dyffryn Aman sydd wedi meithrin y trac cymharol newydd yma yn ofalus iawn dros y pedair blynedd diwethaf.”

Ychwanegodd Eric Jones o Glwb Trotian Dyffryn Aman: “Llongyfarchiadau i’r perchnogion, y gyrrwr a’r ceffyl ac rydw i’n falch iawn ein bod ni wedi cael bod yn rhan o greu record Brydeinig newydd. Rydym yn falch iawn bod ein trac pedair blwydd oed wedi bod yn llwyfan i’r record. Rydym ni’n gobeithio gweld record neu ddwy arall yn cael ei thorri yma yn y dyfodol.”

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?