S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Estyniad cyffrous i wasanaeth Cyw ar S4C

06 Medi 2010

    Mae S4C wedi cyhoeddi estyniad cyffrous i’r gwasanaeth arloesol i blant meithrin, Cyw. Cafodd y cyhoeddiad ei wneud y tu allan i adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw (Medi 6).

Yn yr hydref bydd arlwy Cyw yn ehangu i’r penwythnosau wrth i’r Sianel ddarlledu rhaglenni meithrin ar foreau Sadwrn a Sul am y tro cyntaf.

Yn ôl Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Rhian Gibson, “Mae’r penderfyniad i ehangu gwasanaeth Cyw i’r penwythnosau yn adlewyrchu ymrwymiad clir S4C i ddarparu rhaglenni gwreiddiol ac uchelgeisiol i blant ifanc a’u teuluoedd. Ers i S4C lansio Cyw yn 2008, mae’r gwasanaeth wedi derbyn croeso cynnes iawn gan rieni a phlant yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r arlwy hefyd yn ffynhonnell addysgiadol i rieni di-Gymraeg, dysgwyr a’r teulu cyfan i’w hysgogi i ddefnyddio’r iaith Gymraeg tu hwnt i furiau’r ysgol.

“Mae S4C yn buddsoddi’n drwm ym maes darlledu plant ac mae safon y rhaglenni yn atgyfnerthu’r enw da sydd gan y Sianel a’r cynhyrchwyr annibynnol sy’n eu cynhyrchu.”

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg hefyd wedi canmol ymrwymiad S4C i ddarlledu rhaglenni plant.

Dywed Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr y Bwrdd, “Rydym yn falch i weld S4C yn ymestyn ei raglenni ar gyfer plant a theuluoedd ifanc. Mae sicrhau gwasanaeth deledu o’r ansawdd gorau i’r grŵp targed hwn yn hollbwysig i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg a chodi statws yr iaith.”

Roedd dau o gymeriadau mwyaf hoffus y gwasanaeth, Sali Mali a Jac y Jwc, ym Mae Caerdydd gyda’r cyflwynydd Rachael Solomon a Cyw ei hun i ddathlu’r cynnydd yn yr arlwy. Mi fydd rhaglenni’r penwythnos yn dechrau ar ddydd Sadwrn, 23 Hydref.

Bydd Clwb Cyw, fydd ar S4C rhwng rhwng 07:00 a 09:00 ar foreau Sadwrn a Sul yn teithio i ysgolion a meithrinfeydd gan ryngweithio gyda phlant bach Cymru.

Mae gwefan ddwyieithog gyffrous 3D – s4c.co.uk/cyw – yn llawn gemau, gweithgareddau a gwybodaeth ar gyfer rhieni yn cyd-fynd â’r gwasanaeth teledu.

Lansiad gwasanaeth Cyw oedd cam gyntaf strategaeth S4C i gyflwyno rhaglenni gwreiddiol ac arloesol i blant a phobl ifanc. Ers hynny, mae Cyw wedi darlledu chwe awr a hanner o raglenni o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 07:00 a 13:30.

Dechreuodd ail gymal y Sianel, Stwnsh - ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 7 a 13 oed - ddechrau’r flwyddyn. Yn Ionawr 2011, bydd y cymal olaf yn cael ei gyflwyno gyda llu o raglenni newydd i bobl ifanc yn amserlen S4C.

Diwedd

Nodiadau i’r Golygydd:

Cyhoeddodd S4C waith ymchwil yn 2009 wnaeth ddangos fod gwasanaeth Cyw yn chwarae rôl arbennig ym myd addysg plant ifanc yng Nghymru.

“Mae hunaniaeth Gymraeg yn amlwg yn y rhaglenni sydd ar y gwasanaeth. Maen nhw’n wreiddiol ac yn berthnasol i fywyd bob dydd. Mae Cyw yn lledaenu’r neges fod yr iaith yn fyw,” meddai un rhiant.

Roedd yr ymchwil yn dangos fod canran uchel o athrawon yn gweld rhaglenni a gwefan Cyw fel adnodd unigryw i’w ddefnyddio yn y dosbarth. Mae’n dangos hefyd fod y gwasanaeth wedi llwyddo i godi’r nifer o wylwyr a denu diddordeb oddi ar y sgrin ar-lein.

Yn ôl Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, “Bydd gwasanaeth newydd Cyw yn parhau i ddal yn nychymyg a brwdfrydedd bywiog plant meithrin o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Yn wahanol i’r arfer bydd yr arlwy ar gael ar benwythnosau hefyd.

“Bydd y gwylwyr yn gallu mynd ar daith i fyd Cyw ar deledu ac ar y we fel defnyddwyr, cyfranwyr a chyd-gyflwynwyr. Dychmygwch y profiad unigryw o gamu i fyd hudolus Cyw lle fyddant yn canu a dawnsio, chwarae gemau fydd yn ysgogi dychymyg a synhwyrau, yn ogystal â’r llu o raglenni sydd ar gael.

“Ymysg y rhaglenni newydd ar gael yn yr arlwy newydd fydd Rapsgaliwn, cyfres sy’n dilyn rapiwr ddireidus wrth iddo ddarganfod rhyfeddodau'r byd o'i gwmpas. Bydd Y Diwrnod Mawr, rhaglenni dogfen am ein gwylwyr ifanc, yn dychwelyd am ail gyfres. Cafodd y gyfres gyntaf ymateb arbennig ac mae wedi derbyn enwebiad yng nghwobrau Rose d’Or yn hwyrach yn y mis.”

Mae Cyw eisoes wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol am ansawdd y gwasanaeth. Ymysg yr uchafbwyntiau mae enwebiad Bafta Plant yn 2009 yng nghystadleuaeth Sianel y Flwyddyn.

Roedd y gyfres ABC yn llwyddiannus yng ngwobrau RTS lle roedd ’na ganmoliaeth fawr am y rhaglen fel “enghraifft arbennig o raglen, sy’n cadw yn y cof am fod yn ddewr a gwreiddiol”. Mae’r gyfres animeiddio Holi Hana wedi bod yn llwyddiannus yng nghwobrau Broadcast, yr Ŵyl Gyfryngau Celtaidd a Bafta Cymru.

Mae S4C ar gael yng Nghymru ar Sky 104, Freesat 104, Freeview 4 a Virgin TV 194, a'r tu allan i Gymru ar Sky 134 a Freesat 120.

Mae S4C wedi gwerthu rhaglenni plant i fwy na 100 o wledydd dros y byd.

Mae S4C yn darlledu mwy na 30 awr o raglenni meithrin bob wythnos.

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?