S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pencampwr Rasio Harnais yn cystadlu’n fyw ar S4C

03 Medi 2010

 Bydd un o yrrwr rasio harnais gorau’r byd yn cystadlu yn rownd derfynol Crochan Aur S4C ar Rasus ddydd Llun 6 Medi am 21:30.

Bydd Jodie Jamieson yn gyrru Doonbeg, y ceffyl cyflymaf ym Mhrydain, yn y rownd derfynol sy’n rhan o Noson y Pencampwyr ar drac Tir Prince, Tywyn ger Y Rhyl.

Hon fydd ras ola’r noson fydd yn cael ei darlledu’n fyw ac yn ecsgliwsif ar y bennod olaf o Rasus yn nhymor 2010.

Jodie Jamieson yw gyrrwr gorau Canada ac mae’n gyn-bencampwr byd. Fe yrrodd Doonbeg pan oedd yn dair blwydd oed yn ras Little Brown Jug yn 2006 yn Delaware, Ohio yn yr UDA.

Torrodd Doonbeg y record Brydeinig yn fyw ar Rasus yn Tairgwaith, ger Rhydaman, gan redeg milltir mewn 1:53.7 munud. Roedd e eisoes yn dal y record byd am y ceffyl tair oed cyflymaf dros bellter o filltir.

Bydd Doonbeg yn cystadlu yn erbyn saith ceffyl yn y rownd derfynol – Earned Income, Crown Manhattan, Forafewdollarsmore, Wexford Beach, Stoneriggs Chris, Cutchall Hanover a Scoot Around.

Bydd y rowndiau terfynol hefyd yn cynnwys y Ffeinal Trot Britain, Ras Goffa Billy Williams a Ffeinal Cwpan Cymru S4C.

diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?