S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn chwilio am garol newydd i’r Nadolig

13 Medi 2010

  Mae S4C yn galw ar gyfansoddwr ac emynwyr i ddod o hyd i naws y Nadolig yn gynnar eleni wrth gystadlu yng Nghystadleuaeth Cyfansoddi Carol S4C.

Eleni yw’r 12fed tro i’r gystadleuaeth redeg ar y cyd gyda phapur newydd y Daily Post ac mae’r beirniaid yn disgwyl llond sach o geisiadau - gyda’r wobr fawr, £1,000, yn y fantol i un enillydd lwcus.

Bydd y garol fuddugol yn cael ei pherfformio yn y cyngerdd Mil o Leisiau'r Nadolig sy’n cael ei gynnal ym Mhafiliwn Rhyngwladol Llangollen. Bydd y cyngerdd yn cael ei ddarlledu ar S4C dros gyfnod yr ŵyl.

Meddai Rob Nicholls, Golygydd Cynnwys Diwylliant S4C, “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld safon y cystadlu eleni ac mae Cyngerdd Carolau Llangollen yn un o uchafbwyntiau’r amserlen Nadolig unwaith yn rhagor.

“Yn draddodiadol, mae’n gystadleuaeth sy’n denu cystadleuwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Mae enwau cyfarwydd iawn ymysg enillwyr y gorffennol, fel Elfed Morgan Morris – wnaeth hefyd gyrraedd y brig yng nghystadleuaeth Cân i Gymru – ac enillydd diwethaf Carol Llangollen gyda’r hwiangerdd Cariad Mair, y myfyriwr Ynyr Llwyd.”

Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth eleni yw Dydd Gwener, 29 Hydref a gellir derbyn carolau ar ffurf casét, DAT, mini-disc, CD neu lawysgrif (rhaid cynnwys copi wedi’i deipio o’r geiriau).

Mae rheolau’r gystadleuaeth i’w gweld ar wefan y Daily Post.

Dylech anfon eich carolau at Sioned Gwyn, Cyfathrebu, S4C, Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb o bob oed, boed yn unigolion neu’n grwpiau, heblaw am bobl a gyflogir gan S4C a’r Daily Post. Rhaid i’r geiriau a’r gerddoriaeth fod yn waith gwreiddiol a gall y geiriau fod yn Gymraeg neu’n Saesneg.

DIWEDD

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?