S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Stwnsh ar daith i gwrdd â phlant Cymru

10 Medi 2010

 Yn ystod yr wythnosau nesaf, gallwch ddisgwyl drygioni a dwli yn eich ysgolion pan fydd cyflwynwyr Stwnsh – gwasanaeth S4C i blant

7-13 oed – ar grwydr ym mhob cwr o Gymru.

Geraint Hardy, Tudur Phillips, Lois Cernyw, Eleri Griffiths, Owain Gwynedd ac Anni Llŷn yw’r cyflwynwyr fydd ar daith, gan ddechrau yn ardal Cwm Nedd ac Abertawe.

Bydd y daith hefyd yn teithio i ysgolion cynradd yn ardaloedd Sir Gaerfyrddin, Gwynedd a De Ddwyrain Cymru.

Mae’r daith yn hyrwyddo arlwy hydref Stwnsh. Bydd llu o gyfresi newydd yn cael eu darlledu cyn hir, gan gynnwys cyfres cerddoriaeth Yr Ysgol Roc a Mentro, cyfres sy’n rhoi’r cyfle i unigolion a grwpiau ddysgu sgil newydd.

Ym mis Tachwedd, cawn ddysgu mwy am y byd busnes yn Busnesa a byd natur yn RhyfeddOD a chawn gipolwg tu ôl i’r llenni mewn sw yn y gyfres Morthwyl, Mwd a Mwnci. Bydd hen ffefrynnau fel yr opera sebon i bobl ifanc, Rownd a Rownd, gemau a halibalŵ Stwnsh ar y Ffordd a’r gyfres gomedi Jac Russell hefyd yn dychwelyd i’r sgrin fach.

Darlledir Stwnsh am ddwy awr bob dydd rhwng 16:00 a 18:00. Gall gwylwyr chwarae gemau, rhyngweithio a lawrlwytho gwybodaeth yn ogystal â gwylio’r gwasanaeth ar-lein, unrhyw bryd ac unrhyw le ar y wefan s4c.co.uk/stwnsh.

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?