Y Wasg

Y Wasg

Datganiad S4C ynglŷn â chyhoeddiad BBC

19 Hydref 2010

 Mae Jeremy Hunt, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, wedi cysylltu â Chadeirydd Awdurdod S4C John Walter Jones heno ac yn sgil y drafodaeth honno mae cyfarfod o Awdurdod S4C wedi’i drefnu yfory.

Wrth reswm, bydd yn rhaid i’r Awdurdod a Swyddogion gael amser i ddarllen ac ystyried holl oblygiadau penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol.