S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddarlledu o Rali Cymru GB 2010

15 Medi 2010

 Caewch eich gwregys yn dynn wrth i S4C ddarlledu uchafbwyntiau cynhwysfawr o Rali Cymru GB rhwng 11 a 14 Tachwedd.

Am y seithfed flwyddyn yn olynol, bydd cyfle i wylwyr S4C fwynhau uchafbwyntiau dyddiol o’r rali ddydd Gwener (12 Tachwedd), Sadwrn (13 Tachwedd) a Sul (14 Tachwedd). Bydd rhagflas o gymal olaf tymor 2010 yn cael ei ddarlledu noson cyn y Rali.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynllun 10 mlynedd i hyrwyddo Cymru fel gwlad ar gyfer digwyddiadau chwaraeon, cerddoriaeth a diwylliant. Mae Rali Cymru GB a’r Cwpan Ryder yn rhan o hyn – ac mae’r ddau yn chwarae rôl yn amserlenni S4C.

Yn ôl Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C, “Mae ymroddiad S4C i ddarlledu uchafbwyntiau dyddiol o Rali Cymru GB yn brawf pellach fod S4C yn gartref i’r prif ddigwyddiadau yng Nghymru. Mae Ralio+ yn chwarae rhan annatod yn amserlenni S4C gan gynnwys y gorau o chwaraeon modur lleol yng Nghymru a thu hwnt ar bob lefel.”

Y selogion moduro Emyr Penlan, Lowri Morgan, Wyn Gruffydd, Howard Davies a Gwyndaf Evans fydd yn cyflwyno’r tensiwn, adrenalin, y buddugoliaethau a’r damweiniau yn ystod y digwyddiad. Bydd y tîm wedi’i leoli yn y cymalau ac yng nghanol y parc gwasanaeth wrth iddyn nhw gyflwyno’r gorau o’r diwrnod a newyddion diweddaraf y rali yn ystod rhaglenni’r nos.

Bydd hofrennydd Ralio+ yn darlledu lluniau arbennig i’r gynulleidfa gartref, gyda Phil Pugh yn gohebu ar y cyfan wrth edrych lawr ar y rali.

Yn ôl Emyr Penlan, “Rydyn ni ar Ralio+ yn cyrraedd y llefydd dyw rhaglenni eraill ddim yn gallu eu cyrraedd. Mae’r gefnogaeth a’r diddordeb rydyn ni’n eu derbyn gan selogion y byd moduro wrth ffilmio yn anhygoel - boed yn y Trallwng, Wexford, Worcester neu Doune yn Yr Alban. Alla i ddim credu mai dyma fydd ein seithfed Rali Cymru GB - dyma uchafbwynt y gyfres i fi!”

Ychwanega Lowri Morgan, “Rwy’n credu mai apêl fwyaf y rhaglen yw’r ffaith ein bod yn darlledu pencampwriaethau gorau’r byd a chwaraeon modur lleol yng Nghymru. Bob wythnos rydyn ni’n teithio o amgylch Cymru yn hyrwyddo’r digwyddiadau lleol llwyddiannus ac mae yna rywbeth at ddant bob cefnogwr moduro ar Ralio+.

“Mae’r amodau'n galed iawn yn Rali Cymru ac mae’r gyrwyr yn mwynhau'r sialens wrth ddychwelyd yma bob blwyddyn. Mae’n amhosib rhagweld y tywydd ac mae yna gymal lle mae’n rhaid iddyn nhw yrru yn y tywyllwch, felly mae’r pwysau’n fawr. Mae yna ddilyniant cryf i'r rali yng Nghymru a Phrydain ac mae pobl yn gwneud pob ymdrech posib i ddod i wylio. Bob blwyddyn mae yna buzz enfawr i’r digwyddiad.”

Mae Ralio+ yn parhau bob nos Iau am 21:30 ar S4C hyd at uchafbwynt mawr y tymor yng nghefn gwlad a dinasoedd Cymru.

Yn ystod y tymor, mae’r darllediadau’n cynnwys y gorau o Bencampwriaeth Rali’r Byd (WRC), Intercontinental Rally Challenge (IRC), Pencampwriaeth Rali Prydain (BRC, Motocross, Autograss, Fformiwla 3 a chwaraeon modur o lefel ifanc. Yn ogystal â hyn mae S4C yn darlledu’r gorau o rasio ar drac, rasio oddi ar y trac, ceir modern, ceir o dras, loriau, beiciau a cheir Mini.

Diwedd

Amserlen darlledu Ralio+ yn ystod Rali Cymru GB:

Nos Iau, 11 Tachwedd 21:30

Nos Wener, 12 Tachwedd 19:00

Nos Sadwrn, 13 Tachwedd 18:45

Nos Sul, 14 Tachwedd 17:30

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?