S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwobr Aur i drel yr Haka

15 Tachwedd 2010

 Mae trel Haka S4C wedi dod i’r brig unwaith eto, y tro hwn yn ennill Gwobr Aur yng Ngwobrau Promax UK sy’n gwobrwyo yn niwydiant marchnata a hyrwyddo teledu’r Deyrnas Unedig.

Cafodd trel chwaraeon yr Haka ei goroni yng nghategori Y Trel Chwaraeon Gorau mewn seremoni yn Llundain.

Mae’r hysbyseb yn hyrwyddo darllediadau’r Sianel o gemau criced ugain pelawd Morgannwg ac uchafbwyntiau rygbi o daith haf Cymru i Seland Newydd. Gallwch weld y trel yn ei chyfanrwydd drwy glicio ar y linc yma: http://www.youtube.com/watch?v=O0FgwOdtHWY

Gwelwyd dyfarnwyr criced yn ail greu’r Haka yn yr hysbyseb ond yn defnyddio arwyddion dyfarnwyr criced wrth herio rhai o wynebau adnabyddus carfan rygbi Cymru, gan gynnwys Adam Jones, Jamie Roberts ac Alun-Wyn Jones.

Enillodd trel yr Haka gwobr fawreddog o fewn y diwydiant darlledu chwaraeon yng Ngwobrau Georges Bertellotti Golden Podium yn ddiweddar hefyd. Daeth S4C i’r brig yng Nghategori Y Trel Orau yn y seremoni a gynhaliwyd yn ystod cynhadledd Sportel ym Monaco yn yr Hydref.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?