S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Alex Jones yn ymuno â direidi Stwnsh Sadwrn

05 Tachwedd 2010

 Mae cyflwynydd The One Show, Alex Jones, yn dychwelyd i S4C dros y penwythnos fel gwestai arbennig Stwnsh Sadwrn.

Ar fore Sadwrn rhwng 09:00 ac 11:00, bydd Alex yn ymuno â Lois, Ant ac Al ar gyfer direidi a drygioni yn stiwdio Stwnsh Sadwrn.

Cyn iddi gymryd ei lle ar soffa The One Show - cyfres gylchgrawn dyddiol y BBC - dros yr haf, bu Alex yn gyflwynwraig prysur iawn yn ymddangos ar nifer o gyfresi S4C. Ymysg y rhaglenni bu Alex yn cyflwyno roedd y cyfresi plant Hip neu Sgip a Salon a’r gyfres teithio Tocyn.

Gall wylwyr barhau i wylio Alex ar rai o raglenni S4C ar hyn o bryd, gan gynnwys y gyfres chwaraeon eithafol Chwa! Bydd Alex hefyd yn cyflwyno talentau mwyaf adnabyddus Cymru megis Only Men Aloud, Rhydian Roberts, Paul Potts a Shaheen Jafrgholi o Arena Ryngwladol Caerdydd yn Cyngerdd Mawr Talent Cymru dros gyfnod y Nadolig ar S4C.

Mae Stwnsh Sadwrn yn rhaglen anarchaidd a gwirion sy’n llawn hwyl a chwerthin, sgetsus, comedi a chystadlaethau. Bob wythnos, bydd gwesteion arbennig a chriw o bobl ifanc yn ymuno â’r cyflwynwyr. Disgyblion Ysgol Llangefni sydd yn y stiwdio ar ddydd Sadwrn.

Stwnsh Sadwrn

Dydd Sadwrn 5 Tachwedd, 09:00

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?