S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cân i Gymru 2011 – ydych chi am fentro?

08 Tachwedd 2010

   Oes gennych chi’r ddawn o ysgrifennu cân sy’n deilwng o ennill cystadleuaeth flynyddol S4C, Cân i Gymru 2011? A ydych chi’n ysu am gyfle i gyfansoddi a dangos eich talent gyda lle yn y rownd derfynol yn y fantol? Ai eich cân chi fydd yn cael ei dewis i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd flwyddyn nesaf?

Heddiw (dydd Llun 8 Tachwedd), mae S4C yn cyhoeddi manylion cystadleuaeth Cân i Gymru 2011 drwy wahodd cyfansoddwyr o Gymru a thu hwnt i gystadlu am le yn yr Ŵyl Ban Geltaidd, yn ogystal â gwobr ariannol.

Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth eleni yw 7 Ionawr 2011 a bydd yr wyth cân sy’n cyrraedd rhestr fer y rheithgor o arbenigwyr, sy'n cynnwys Owen Powell gynt o fand Catatonia, yn brwydro am y wobr o £7,500 mewn rhaglen fyw o Bafiliwn Pontrhydfendigaid ar S4C ar 6 Mawrth 2011.

Meddai Owen, sy’n dychwelyd i Gadeirio’r Rheithgor, “Rydym yn croesawu bob math o gerddoriaeth gan unrhyw un - boed yn fand neu’n unigolyn, yn brofiadol neu’n newydd, gyda band cyfan neu un gitâr. Mae ‘na groeso i unrhyw steil o gerddoriaeth yn y gystadleuaeth ac mae’n bwysig pwysleisio fod ansawdd y gerddoriaeth ddim yn bwysig ar fan cychwyn y broses pan fyddwch chi’n danfon eich tapiau atom ni.

“Rydyn ni’n chwilio am wreiddyn syniad gyda melody a geiriau cofiadwy. Unwaith inni fel rheithgor ddewis yr wyth cân gorau, mae yna broses cynhyrchu hir yn digwydd lle fyddwn ni’n treulio amser yn y stiwdio gyda’r artistiaid yn paratoi ar gyfer y sioe byw.

“Mae rownd derfynol Cân i Gymru yn cynnig platfform arbennig iawn i’r holl artistiaid sy’n cymryd rhan – i fandiau ac unigolion adnabyddus ac i’r rhai ifanc sy’n dechrau ar ei siwrne ym myd cerddoriaeth. Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld amrywiaeth eang o ganeuon, steil a thalentau ar lwyfan Cân i Gymru ac mae’n cadarnhau fod y gystadleuaeth yn mynd o nerth i nerth.”

Y cerddor Alun Tan Lan oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth flwyddyn ddiwethaf gyda’r gân ‘Bws i’r Lleuad’. Tomos Wyn, sydd bellach wedi ymuno â chast Rownd a Rownd ar S4C, oedd yn perfformio.

Cwmni Avanti sy’n cynhyrchu cystadleuaeth Cân i Gymru ar ran S4C. Am fwy o fanylion, cysylltwch ag Avanti ar 01443 688530 neu canigymru2010@thepopfactory.com

Diwedd

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?