S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfle arall i fwynhau Pen Talar ar-lein

10 Tachwedd 2010

  Mae S4C yn rhoi cyfle i wylwyr fwynhau’r gyfres ddrama epig Pen Talar eto ar-lein. Bydd modd gwylio pob pennod o’r gyfres drwy’r gwasanaeth ar alw Clic am dros fis arall.

Cafodd y bennod olaf ei darlledu ar S4C nos Sul 7 Tachwedd. Yn ôl y drefn arferol mae rhaglenni ar gael i’w gwylio ar Clic am 35 diwrnod yn dilyn y darllediad cyntaf. Ond, oherwydd llwyddiant y gyfres, mae S4C wedi penderfynu eithrio Pen Talar o’r rheol hon ac mi fydd y naw bennod ar gael i’w gwylio am fis arall – tan 12 Rhagfyr.

Cofiwch hefyd y bydd y bennod olaf yn cael ei hailddarlledu, gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin, heno am 22:00 (Iau 11 Tachwedd).

Mae Pen Talar yn dilyn cymeriadau o ddau deulu yng ngorllewin Cymru o’r 1960au cynnar hyd heddiw mewn drama am gredu a charu, cyfeillgarwch a pherthyn. Gyda Richard Harrington, Ryland Teifi a Mali Harries a llwyth o actorion amlwg eraill yn serennu, mae’r gyfres yn bortread gafaelgar o gwlwm oes rhwng Defi Lewis, ei ffrind gorau Doug Green a’i chwaer Siân Lewis.

Mae’r siwrnai’n mynd â ni o dwf cenedlaetholdeb yn y 1960au i bleidlais ‘Na’ Datganoli 1979 ac o Streic y Glowyr 1984 i bleidlais ddramatig Datganoli 1997 ac i Gymru 2010.

Gallwch wylio Pen Talar ar s4c.co.uk/clic tan 12 Rhagfyr.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?