S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Mwyafrif llethol pobl Cymru yn cefnogi Sianel Gymraeg

08 Tachwedd 2010

 Mae mwyafrif o bobl Cymru yn credu bod angen sianel deledu yn yr iaith Gymraeg a bod S4C yn bwysig i ddiogelu dyfodol yr iaith.

Dyma ddau o ganlyniadau pôl piniwn a gomisiynwyd gan raglen materion cyfoes S4C Y Byd ar Bedwar i’w darlledu heno Nos Lun 8 Tachwedd am 9.30pm.

Dangosodd yr ymchwil gan YouGov bod 55% o’r rhai holwyd – 80% ohonyn nhw yn ddi- Gymraeg - yn credu bod angen sianel deledu yn yr iaith Gymraeg tra bod 25% o’r farn nad oedd ei hangen.

Roedd cyfanswm o 55% hefyd yn cytuno fod S4C yn bwysig i ddiogelu dyfodol yr iaith tra bod 22% yn anghytuno.

Bu YouGov yn cyfweld sampl o 1,206 o oedolion ar draws Cymru. Ychydig dros 200 ohonyn nhw oedd yn Gymry Cymraeg, ac roedd dros 80% o rhain o’r farn fod y sianel yn werthfawr i Gymru.

Dywedodd Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C, “Mae’r canlyniadau yma’n dangos pa mor gryf y mae gwerthfawrogiad pobl Cymru o S4C, pa bynnag iaith y mae nhw’n ei siarad.”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?