S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cadeirydd S4C yn cadarnhau ei ymddiswyddiad

24 Tachwedd 2010

Cadarnhaodd John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, i’w gyd-aelodau ar yr Awdurdod nos Fawrth (23 Tachwedd) ei fod wedi cyflwyno’i ymddiswyddiad i’r Ysgrifennydd dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS). Mae hyn yn dilyn cyfarfod rhyngddo a’r Ysgrifennydd Gwladol ar 16 Tachwedd. Dywedodd Mr Jones wedyn wrth yr Awdurdod fod yr ymddiswyddiad yn effeithiol yn syth.

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod S4C heno (nos Fercher 24 Tachwedd), “Nid ydym wedi derbyn cadarnhad o’r penderfyniad oddi wrth y DCMS ac nid ydym wedi clywed gan Mr Jones ers y cyfarfod neithiwr.”

Yn dilyn cyhoeddiad John Walter Jones, bu’r Awdurdod yn ystyried y ffordd orau o symud ymlaen er mwyn sicrhau dilyniant ac arweiniad i’r Sianel ac apwyntiwyd is-gadeirydd. Etholwyd Rheon Tomos yn unfrydol fel is-gadeirydd yr Awdurdod.

Dywedodd y llefarydd, “Mae’r Awdurdod wedi bod yn gytûn erioed ynghylch pwysigrwydd trafodaethau gyda DCMS a’r BBC ynglŷn â chyfeiriad S4C yn y dyfodol. Cynhaliwyd cyfarfodydd eisoes gyda DCMS ac Ymddiriedolaeth y BBC a chynhelir cyfarfod arall wythnos nesaf.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?