S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Glyn Fiddich yw seren golygfa mwyaf cofiadwy C’Mon Midffild

29 Rhagfyr 2010

Mae wisgi Glenfiddich yn achosi trafferthion mawr i Wali a’r criw yn yr olygfa fwyaf cofiadwy o holl gyfresi a ffilmiau C’mon Midffild.

Mewn dwy raglen arbennig ar S4C, 40 Uchaf C’Mon Midffild ar Noswaith a dydd Nadolig, datgelwyd y 40 golygfa fwyaf cofiadwy o’r gyfres gomedi boblogaidd, wedi eu dewis gan actorion a ffans y gyfres.

Yn yr olygfa a ddaeth i’r brig, mae Wali, Mr Picton, Tecs a George yn ceisio osgoi cosb gan Heddwas sy’n eu dal yn mwynhau lock-in. Maen nhw’n rhoi enwau a chyfeiriadau ffug sydd wedi eu hysbrydoli gan y poteli wisgi tu ôl i’r bar. Wedi i Arthur ‘Bell’ a George ‘John Walker’ lwyddo i dwyllo’r Heddwas, mae Wali yn chwalu’r cynllwyn gan roi’r enw Glyn Fiddich!

“Ydach chi’n siŵr?” gofynna’r heddwas yn amheus, ac mae Wali yn ateb, “Yndw siŵr, gofynnwch i Mr Picton.”

Gofynnwyd i ffans y gyfres gysylltu â S4C i rannu eu hoff atgofion am C’Mon Midffild. O edrych ar yr ymateb gafwydd drwy Gwifen Gwylwyr a gwefan S4C ac ar y dudalen Facebook, doedd dim amheuaeth mai hon oedd yr olygfa fwyaf cofiadwy.

Gwyliwch 40 Uchaf C’mon Midffild eto ar-lein s4c.co.uk/clic i weld os yw’ch hoff olygfeydd ymysg y 40 uchaf.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?