S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn rhoi llwyfan i dalent Cymru dros y Nadolig

13 Rhagfyr 2010

Fe fydd talentau disgleria’ Cymru yn cael llwyfan amlwg ar S4C y Nadolig hwn.

Mae’r Sianel wedi cyhoeddi ei hamserlen Nadolig gyda doniau Bryn Terfel, Rhydian Roberts, Only Men Aloud, Côr Glanaethwy, Shân Cothi yn taro nodyn arbennig yn yr arlwy dros yr ŵyl.

Un o’r nosweithiau mawr fydd Cyngerdd Mawr Talent Gymru (27 Rhagfyr) pan fydd perfformwyr a greodd argraff mewn sioeau talentau yn uno i gynnal noson o adloniant pur.

Cynhaliwyd y noson fawr yn Arena Ryngwladol Cymru pan wnaeth Alex Jones gyflwyno Only Men Aloud, Côr Glanaethwy, Rhydian Roberts, Mark Evans, Tara Bethan, Sophie Evans, Laura Sutton, Shaheen Jafargholi, Jukebox Juniors, Eclipse a Starburst ymhlith eraill.

Mae’r gyngerdd yn un o nifer o uchafbwyntiau cerddorol mawr yr ŵyl a fydd hefyd yn gweld sioeau arbennig gyda’r bas bariton Bryn Terfel (24 Rhagfyr), y soprano Shân Cothi (25 Rhagfyr) a’r tenor Wynne Evans (Gio Compario) yn y rhaglen Carolau o Langollen.

Meddai Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C: “Mae Cymru yn wlad llawn talentau sy’n denu sylw inni ledled y byd. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus blaenllaw yng Nghymru, fe fyddwn yn dathlu hynny’r Nadolig hwn. Diolch i’r ddawn sydd gennym ni yng Nghymru, mae S4C yn gallu cynnig adloniant, drama, dogfen a chwaraeon o’r safon uchaf y Nadolig hwn.”

Fe fydd comedi yn cael lle amlwg ar S4C y Nadolig hwn gyda’r digrifwr Tudur Owen yn Sioe Dolig Tudur Owen (25 Rhagfyr) a phan gaiff dewis y gwylwyr a phanel arbennig o’r golygfeydd gorau eu datgelu o’r gyfres fytholwyrdd yn 40 Uchaf C’mon Midffild (24-25 Rhagfyr).

Fe fydd dwy ffilm yn cael premiere hefyd, gyda’r cast yn cynnwys Ruth Jones yn Ar Y Tracs: Y Trên i’r Gêm (1 Ionawr) yn dilyn llwyddiant y ffilm Ar y Tracs y llynedd. I ffans Gari Tryfan, fe fydd y ditectif yn ei ôl yn y ffilm Gari Tryfan a’r Drych i’r Gorffennol (29 Rhagfyr) gyda Richard Elfyn, Huw Rees a Catherine Ayres yn serennu.

Bydd llwyth o sêr - yn cynnwys selebs mor amrywiol â’r cyn beldroediwr Malcolm Allen, yr actor Julian Lewis Jones a’r cantor Aled Hall -ymhlith yr wyth yn y gystadleuaeth goginio dair rhaglen Dudley: Pryd o Sêr (Rhagfyr 21, 23, 28)

Fe fydd rhifynnau Nadolig arbennig o gyfresi drama fel Pobol y Cwm, Rownd a Rownd ac Ista’nbwl, a’r gyfres ddrama Teulu yn parhau dros yr ŵyl, ynghyd â sioeau Nadolig Jonathan a Noson Lawen a rhaglenni arbennig o gyfresi mor amrywiol â Gofod, Bandit, Byw yn yr Ardd, Sgota a Byw yn ôl y Llyfr.

Cawn weld Alex Jones yn dychwelyd i’r Tocyn Penwythnos wrth iddi hi, Aled Samuel a dau deulu gael tocynnau i Lapland a Lapland UK.

Bydd llond hosan o raglenni plant yn cael eu darlledu yn Cyw wrth i Sioe Nadolig Cyw gael eu premiere teledu cyntaf ac mae amserlen arbennig ar gyfer Nadolig cyntaf gwasanaeth Stwnsh!

Fe fydd yr arlwy chwaraeon yn cynnwys dwy gêm ddarbi fawr, Gweilch v Scarlets (26 Rhagfyr) a Scarlets v Dreigiau (1 Ionawr).

diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?