S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Awdurdod S4C yn gohirio penodi Prif Weithredwr

07 Rhagfyr 2010

Mae Awdurdod S4C wedi penderfynu gohirio penodi Prif Weithredwr parhaol i’r Sianel tan fydd yr Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi dod i benderfyniad ynglŷn â Chadeiryddiaeth yr Awdurdod.

Yn y cyfamser, bydd Arwel Ellis Owen yn parhau fel Prif Weithredwr, swydd mae wedi ei chyflawni dros dro ers mis Gorffennaf eleni.

Cyhoeddodd Cadeirydd yr Awdurdod, John Walter Jones ei ymddeoliad o’i swydd heddiw (7 Rhagfyr). O dan yr amgylchiadau, daeth yr Awdurdod i’r casgliad na fyddai’n addas apwyntio Prif Weithredwr parhaol ar hyn o bryd.

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod S4C, “Mae’r berthynas rhwng y Cadeirydd, yr Awdurdod a’r Prif Weithredwr yn un hanfodol ac rydym o’r farn na fyddai’n addas parhau i chwilio am Brif Weithredwr tan fod gan yr Awdurdod Gadeirydd newydd.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?