S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Eira yn effeithio ar Sioeau Cyw

17 Rhagfyr 2010

 Oherwydd y tywydd garw, mae Sioe Nadolig Cyw yn Theatr Elwy dydd Sadwrn a Galeri, Caernarfon dydd Sul wedi eu canslo.

Mae S4C yn ymddiheuro am y siom ac yn edrych i ail-drefnu yr wythnos nesaf os oes modd gwneud hynny.

Bydd gwasanaeth Cyw ar y teledu yn cael ei ymestyn dros y penwythnos rhwng 11:00 a 12:00 bore Sadwrn a 09:00 a 10:00 bore Sul o ganlyniad i’r penderfyniad.

Mae darllediad byw Stwnsh Sadwrn o Wledd y Gaeaf ar y Glannau yn Abertawe hefyd wedi’i ganslo oherwydd yr eira trwm. Yn hytrach, bydd Ant, Al a Lois yn cyflwyno cyffro’r Ŵyl o’r stiwdio.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?