S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Julian yw Brenin y Gegin

29 Rhagfyr 2010

 Yr actor Julian Lewis Jones sydd wedi ei goroni’n seren y gegin gan Dudley Newbery yn y gyfres Dudley Pryd o Sêr.

Mewn tair rhaglen dros gyfnod y Nadolig, rydym wedi dilyn wyth o wynebau adnabyddus - Julian Lewis Jones, Malcolm Allen, Heledd Cynwal, Gillian Elisa, Ifan Jones Evans, Siân Thomas, Lauren Phillips ac Aled Hall - wrth iddynt oresgyn cyfres o sialensiau coginio anodd gan geisio plesio Dudley. Daeth y cystadlu i ben gyda rhaglen awr o hyd ar 28 Rhagfyr ble roedd rhaid i’r wyth baratoi pryd thri chwrs perffaith.

Roedd digonedd o ddagrau a danto wrth i’r sêr geisio ymdopi â gwres y gegin.

“Mae’r profiad wedi gwneud i mi werthfawrogi gwaith sy mewn cegin,” meddai Julian. “Mae hi mor boeth yna o hyd efo’r burners a’r stof ymlaen drwy’r amser. Roedden ni’n chwys domen erbyn diwedd y dydd.

“Ond roedd o’n buzz - yr holl brysurdeb a’r pwysau. Ma’n debyg iawn i berfformio mewn ffordd, rydach chi’n gwneud eich gorau gan obeithio eu bod nhw’n gwerthfawrogi eich llafur chi.”

Er ei fod yn cyfaddef ei fod yn berson cystadleuol, roedd ennill yn sypreis iddo.

“Mi oedd yn sypreis, ond mi oni wedi gobeithio ennill,” meddai Julian, “Mi ydw i yn gystadleuol yn dawel fach. Mi fyddai’n gwneud fy ngore ond ddim yn bloeddio a brolio.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill i ddweud y gwir gan fod i wedi gwneud camgymeriad. Ond ro’n i mor flin efo fy hun mi wnes i weithio dwywaith mor galed i wneud fyny am hynny, felly mae’n siŵr fod o wedi bod o’m mhlaid i yn y diwedd.”

Mae wedi dysgu llawer o’r profiad, meddai, gan gael cyfle i baratoi bwydydd na fyddai o wedi eu gwneud fel arall. Mae Julian yn mwynhau coginio, ond mae ei waith yn golygu fod cael amser i arbrofi yn y gegin yn brin. Mae Julian newydd orffen ffilmio rhaglen ddogfen am Owain Glyndŵr fydd yn cael ei darlledu ar S4C adeg Gŵyl Dewi, a hefyd ar fin cychwyn ffilmio’r ail gyfres o’r rhaglen bysgota ‘Sgota Gyda Julian Lewis Jones.

Gallwch wylio Dudley Pryd o Sêr eto ar-lein, s4c.co.uk/clic.

Noddir y gyfres gan fforchifforc.org.uk gwefan newydd sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am fanteision prynu bwyd ffres, uniongyrchol a lleol gan gynnwys map o farchnadoedd ffermwyr yn eich ardal chi.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?