S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyflwynydd Stwnsh yn ennill y Goron

08 Mehefin 2012

Mae un o gyflwynwyr Stwnsh ar S4C wedi ennill y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Eryri.

Anni Llŷn, sy’n wreiddiol o Sarn Mellteyrn ym Mhen Llŷn, oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth rhyddiaith ar ddydd Gwener yn yr Urdd.

“Dwi’n nerfau i gyd,” meddai Anni, “ond dwi ‘di gwirioni’n lan. Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill o gwbl. Mae’n hollol swreal – bore ‘ma bues i ar y maes carafanau yn ymarfer Stwnsh Sadwrn ac yna prynhawn ‘ma dwi yn y pafiliwn yn ennill y Goron!”

Thema’r gystadleuaeth rhyddiaith eleni oedd Egin a’r beirniaid oedd Catrin Dafydd a Meg Elis.

Nid dyma’r tro cyntaf i’r cyflwynydd 24 oed gystadlu am un o brif wobrau’r wythnos. Fe ddaeth Anni yn drydydd yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Abertawe yn 2011.

“Yr ysgogiad mwyaf ifi oedd mai dyma’r flwyddyn olaf ifi fedru cystadlu gan y bydda i’n rhy hen i drio flwyddyn nesaf. Mae’r gelfyddyd o ‘sgwennu’n rhoi’r rhyddid i fedru bod yn ddychmygol ac yn arbrofol yn eich gwaith,” ychwanega.

Mae Anni yn cyflwyno rhaglenni a dolenni Stwnsh – y gwasanaeth i bobl ifanc – ar S4C gyda Lois Cernyw, Tudur Phillips ac Owain Gwynedd.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?